成人快手

Cyngor Sir Benfro yn gostwng y dreth ar ail gartrefi ar 么l chwe mis

Dinbych y Pysgod
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dim ond chwe mis sydd ers i'r cyngor gyflwyno'r gyfradd uwch o 200%

  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr Sir Benfro wedi pleidleisio i leihau'r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi o 200% i 150%.

Does ond chwe mis ers i'r cyngor gyflwyno'r gyfradd uwch o 200%.

Daw'r newid er gwaethaf rhybuddion y byddai'n arwain at fwy o doriadau i wasanaethau'r cyngor a chodiad treth gyngor uwch i drethdalwyr yn y sir.

Daeth hi i'r amlwg fis diwethaf fod nifer yr ail dai sydd ar werth yn Sir Benfro wedi mwy na threblu ar 么l i'w treth cyngor gynyddu.

O dan reolau newydd, fe all cynghorau godi premiwm o hyd at 300% ar ben y lefel arferol i geisio mynd i'r afael 芒'r argyfwng tai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd arweinydd y cyngor y bydd pob toriad o 50% yn y premiwm yn cyfateb i 拢2.6m mewn incwm o golled i'r cyngor

Ddydd Iau, cafodd y gwelliant annibynnol gan y cynghorydd Huw Murphy i ostwng premiwm treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi o 200% i 150% ei gefnogi gan 30 pleidlais i 26.

Cafodd gwelliant blaenorol gan y Cynghorydd Ceidwadol Di Clements i ostwng y dreth o 200% i 100% ei wrthod.

Dywedodd y Cynghorydd Marc Tierney o Blaid Lafur ei fod yn "siomedig nad oedd pobl yn fodlon gwrando ar y realiti economaidd".

Byddai lleihau'r premiwm yn "benderfyniad gwael iawn", meddai.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jon Harvey wrth y cyfarfod nad oedd y data'n bodoli eto i asesu effaith y premiwm 200% ar ail gartrefi.

Dywedodd y byddai pob toriad o 50% yn y premiwm yn cyfateb i 拢2.6m mewn incwm a gollwyd.

Mae'r cyhoeddiad yn newyddion da yn 么l y gr诺p hybu twristiaeth, Visit Pembrokeshire: 鈥淩y'n ni'n croesawu penderfyniad Cyngor Sir Penfro heddiw i ostwng premiwm treth y cyngor ar ail gartrefi i 150%.

Bydd y premiwm treth cyngor newydd o 150% ar gyfer ail gartrefi yn dod i rym o 1 Ebrill 2025.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y premiwm o 200% yn "eithriadol o uchel," meddai Becky Munn

Mae busnesau yn Ninbych y Pysgod wedi croesawu鈥檙 gostyngiad ar bremiwm treth cyngor ar ail dai.

Mae Becky Munn a鈥檌 g诺r wedi rhedeg eu siop Cariads ers mis Medi.

Yn 么l Becky roedd y premiwm o 200% yn 鈥渆ithriadol o uchel鈥.

鈥淣i wedi gweld cynnydd mewn ail dai sy鈥檔 mynd ar werth. Ni鈥檔 ardal dwristaidd ac mai鈥檔 rhan enfawr o'r economi leol,鈥 meddai.

鈥淵 lleiaf o dai sydd ar gael i bobl i ymweld 芒鈥檙 ardal, mae鈥檔 cymryd y cyfle i ffwrdd i wario yn yr ardal.鈥

Mae Becky yn byw yn Aberdaugleddau gyda鈥檌 theulu, hoffai fyw yn Ninbych y Pysgod i fod yn agosach i鈥檞 busnes, ond mae'n dweud nad yw tai yn yr ardal yn 鈥渇forddiadwy鈥.

Fel perchennog busnes a pherson lleol mai鈥檔 鈥済ylch dieflig," meddai

鈥淵n amlwg fel busnes, y fwyaf o dwristiaid sy鈥檔 ymweld ag yn aros yn yr ardal 'y ni鈥檔 mynd i elwa. Ond fel person lleol sydd eisiau symud ei theulu o ogledd y sir i鈥檙 de, dyw e ddim yn fforddiadwy.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

鈥淢ae perchnogion ail dai yma drwy鈥檙 flwyddyn ac yn gwario mewn siopau a bwytai," meddai John Mather

John Mather yw perchennog siop The Nook.

Credai fod unrhyw bremiwm ar ail gartrefi yn 鈥渁nnheg鈥.

鈥淢ae perchnogion ail dai yma drwy鈥檙 flwyddyn ac yn gwario mewn siopau a bwytai,鈥 meddai.

Ychwanegodd: 鈥淢ae gennym ni dwristiaid sydd yma trwy gydol y tymor ond mae 鈥榥a peaks and throughs.

"Mae perchnogion ail dai yn gwario yn y dre felly dwi鈥檔 meddwl bod unrhyw fath o bremiwm yn annheg.鈥

Pynciau cysylltiedig