成人快手

Pobol y Cwm: Dewi Rhys wrth ei fodd bod n么l yn chwarae Dyff

Dyff JonesFfynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dewi Rhys wedi bod yn chwarae rhan Dyff Jones ers 1993 tan i'r cymeriad 'farw' yn 2000.

  • Cyhoeddwyd

"Pan nes i adael yn 2000 doeddwn ddim yn meddwl y baswn i'n mynd n么l, ond fe all unrhyw beth ddigwydd mewn opera sebon."

Dyna eiriau'r actor Dewi Rhys sy'n chwarae cymeriad Dyff Jones yn y gyfres Pobol y Cwm.

Cafodd gwylwyr S4C gipolwg annisgwyl o Dyff ar goridor ward ysbyty nos Fawrth.

Does neb wedi gweld Dyff ers i'w angladd gael ei gynnal 'n么l yn y flwyddyn 2000.

Sut brofiad oedd hi felly i Dewi Rhys gamu n么l ar set Pobol y Cwm? Ac oedd hi'n benderfyniad hawdd camu n么l i chwarae cymeriad oedd fod wedi marw 25 mlynedd yn 么l?

Dyma oedd gan Dewi Rhys i'w ddweud wrth 成人快手 Cymru Fyw am ddychwelyd i Gwmderi.

Ble oedd Dyff?

"Tua'r adeg yma'r flwyddyn ddiwethaf oedd hi a ges i alwad ff么n gan Dafydd Llewelyn (Cynhyrchydd Cyfres Pobol y Cwm).

"Doeddwn ddim yn disgwyl yr alwad ond dyna pryd y gwnaeth Dafydd s么n fod 'na fwriad i ddod 芒 Dyff yn 么l.

"Dwi'n nabod Dafydd ers blynyddoedd ac roedd o'n gweithio ar Pobol y Cwm n么l pan nes i adael yn wreiddiol yn 2000.

"Ar 么l iddyn nhw esbonio'r stori a'r cynllun i Dyff, gafon ni ychydig mwy o gyfarfodydd a dyma fi'n cytuno," meddai Dewi.

Daeth esboniad ym mhennod nos Fercher fod Dyff wedi goroesi ymosodiad gan y dihiryn Frank Price n么l yn 2000 ac nad oedd o wedi marw, fel roedd pawb yn ei feddwl.

Roedd Dyff wedi bod yn byw yn Sbaen ers dros 20 mlynedd yn cuddio dan gynllun gwarchod tystion yr heddlu.

Mewn golygfa ddramatig, daeth i'r amlwg fod Stacey, merch Dyff wedi cwrdd ag ef ddwywaith wedi ei farwolaeth ffug, ac yn gwybod ei fod dal yn fyw er syndod i'w mam Kath Jones a'i brawd Mark.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyff gyda'i fab Mark Jones yn yr 1990au

'Fel reidio beic'

Mae cymaint wedi newid ers y tro diwethaf i Dewi Rhys gamu ar set Pobol y Cwm, meddai.

"Y newid mwyaf oedd y lleoliad. Pan nes i orffen roedd y set ar hen safle'r 成人快手 yn Llandaf.

"Mae popeth wedi symud i Fae Caerdydd r诺an felly ro'n i'n nerfus iawn yn mynd n么l.

"Mae 'na lot fawr o actorion newydd hefyd, ond roedd hi'n braf gweld bod 'na sawl un o'r criw y tu 么l i'r camera dal i weithio ar y gyfres, felly roedd hi'n braf gweld ambell i wyneb cyfarwydd.

"Ond unwaith roeddwn ar y set roedd o fel reidio beic, roedd popeth yn dod n么l yn gyflym iawn," meddai.

Ond roedd o leiaf tri wyneb cyfarwydd iawn yn disgwyl amdano i ffilmio'r golygfeydd cyntaf.

Roedd Dewi yn edrych ymlaen at weithio unwaith eto gyda Siw Hughes sy'n chwarae rhan Kath, Arwyn Jones sy'n chwarae rhan Mark Jones a Shelley Rees sy'n chwarae rhan Stacey.

"Roedd y chemistry yno'n syth hefo nhw i gyd. Ond yn enwedig efo Siw, rydan ni'n ffrindiau mawr ers blynyddoedd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan Dewi Rhys berthynas dda gyda Siw Hughes sy'n actio rhan Kath Jones

Mae Dewi'n cyfaddef iddo ddifaru derbyn y cynnig i ddychwelyd ychydig ddyddiau ar 么l cytuno, ond fe ddiflannodd y teimlad hwnnw wedi digwyddiad mewn archfarchnad.

"Ers blynyddoedd mae pobl ar y stryd yn dod ata i ac yn s么n am Dyff, mae'n anhygoel ar 么l cymaint o flynyddoedd fod hynny yn digwydd.

"O'n i mewn archfarchnad ychydig ddyddiau ar 么l cytuno i fynd n么l.

"Yn sydyn ges i bwl o ddifaru ac amau os yr oeddwn wedi gneud y penderfyniad iawn.

"Erbyn i mi gyrraedd y til, fe drodd y ddynes oedd yn gweithio yno a deud wrtha i cymaint yr oedd hi'n methu Dyff ar y sgrin.

"Roedd hwnna鈥檔 deimlad rhyfedd ond 'nath hynny gadarnhau i mi fy mod wedi gneud y peth iawn yn cytuno i fynd n么l.

"Yr unig beth sydd wedi bod ychydig yn anodd yw'r cadw'r gyfrinach. Dwi'n falch r诺an fod o wedi cael ei weld ar y sgrin unwaith eto," meddai.

Dyfodol Dyff

Beth nesaf i Dyff felly?

Does dim cadarnhad am ba hyd fydd Dyff yn ei 么l ond yn 么l Dewi fe fydd hi'n ddifyr gweld sut bydd ei berthynas gyda theulu'r Jonesiaid yn datblygu.

"O ran dod n么l, dwi'n gyfforddus efo'r stori o egluro sut fod Dyff wedi atgyfodi.

"Dim ond ei goes o welon ni 25 mlynedd yn 么l a doedd dim cadarnhad pendant bryd hynny fod o wedi marw, ond roedd pobl yn cymryd yn ganiataol fod hynny wedi digwydd.

"Fe all unrhyw beth ddigwydd mewn opera sebon; ychydig bach o hwyl ydi hyn a dwi'n falch o gael chwarae rhan yn hynny," meddai.

Ac o ofyn os yw Dyff wedi newid ers bod i ffwrdd yn Sbaen?

Ateb Dewi oedd - "Bydd rhaid i chi aros i weld."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dyff Jones wedi dychwelyd i Gwmderi bron i 25 mlynedd ers ei angladd

Pynciau cysylltiedig