成人快手

Cadarnhau enw baban pedwar mis oed fu farw yn Sir Benfro

Gwasanaethau brys yng Nghlunderwen
  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cadarnhau enw'r baban fu farw yng Nghlunderwen yn Sir Benfro dros y penwythnos.

Roedd Kali Creed Green yn bedwar mis oed.

Fe gafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw am 13:45 brynhawn Gwener i eiddo yn yr ardal wedi pryderon am les y bachgen ifanc.

Cafodd dynes 19 oed a dyn 23 oed eu harestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn, ac mae'r ddau bellach wedi eu rhyddhau ar fechn茂aeth.

Dywedodd yr heddlu fod marwolaeth y babi yn cael ei thrin fel un anesboniadwy.

Mae'r crwner wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.

Pynciau cysylltiedig