成人快手

'Pan ti'n athro, dwyt ti byth yn gorffen dy waith'

Huw WilliamsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe benderfynodd Huw Williams roi鈥檙 gorau i鈥檞 swydd fel athro ym mis Chwefror

  • Cyhoeddwyd

"Pan ti'n athro, dwyt ti byth, byth yn gorffen dy waith - ti byth yn gorffen dy to-do list."

"Nes i feddwl bod rhaid i fi adael r诺an neu fyswn i yna am byth."

Gydag ymchwil 成人快手 Cymru yn dangos fod mwy o bwysau ar ysgolion i ddiswyddo athrawon, mae Cymru Fyw wedi siarad gyda rhai sydd wedi gadael y proffesiwn o'u gwirfodd eu hunan.

Mae un athro sy'n dal i weithio yn y gogledd wedi dweud wrth Cymru Fyw ei fod wedi gorfod "bodloni fy hun 芒 bod yn athro o safon is i wneud si诺r fod gen i fywyd personol".

'Relentless'

O Bwllheli鈥檔 wreiddiol, roedd Huw Williams wedi bod yn dysgu fel athro uwchradd yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn Y Barri ers 2011.

Ym mis Chwefror eleni fe benderfynodd roi鈥檙 gorau i鈥檞 swydd fel athro a hyfforddi fel ymgynghorydd ariannol, a helpu鈥檔 achlysurol yng nghaffi ei deulu ym Mhwllheli.

Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw, dywedodd bod 鈥渓ot o resymau鈥 pam ei fod wedi rhoi鈥檙 gorau i鈥檞 swydd fel athro.

Roedd o鈥檔 mwynhau gweithio yn yr ysgol ond mae鈥檔 dweud bod y swydd yn 鈥relentless鈥.

鈥淥鈥檔 i鈥檔 cyrraedd yr ysgol erbyn tua 08:00 ac yn aml ar ddyletswydd bws, wedyn gorfod dysgu pum gwers a hefyd ar ddyletswydd amser egwyl a chinio weithia鈥," meddai.

"O鈥檔 i hefyd yn gwneud gwersi neu glybiau ar 么l ysgol ac yn gyrru鈥檙 t卯m rygbi ym mws yr ysgol. Ac wedyn fyswn i鈥檔 mynd adra a meddwl 鈥榖e sy鈥檔 digwydd fory?'

鈥淥鈥檔 i鈥檔 rhoi fy enw lawr i wneud bob dim 鈥 o鈥檔 i鈥檔 mwynhau mynd ar dripiau ac ar un adeg es i ar dripiau saith wythnos yn olynol bron, ond mi 'naeth wbath newid.

鈥淣es i sylwi ma鈥檙 mwya鈥 ti鈥檔 rhoi fewn, y mwyaf ti鈥檔 cael n么l, ond o鈥檇d o鈥檔 flinedig.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

鈥淥鈥檔 i angen work-life balance gwell," meddai Huw, sydd 芒 mab chwe mis oed

Mae Huw hefyd yn dweud ei fod yn treulio oriau yn anfon ebyst, a bod y pwysau鈥檔 ormod.

鈥淥鈥檔 i鈥檔 gwybod os na fyswn i鈥檔 stopio bod 鈥榥a burnout ar y ffordd. O鈥檔 i newydd droi鈥檔 40 a nes i feddwl bod rhaid i fi adael r诺an neu fyswn i yna am byth," meddai.

鈥淢ae鈥檙 cyflog yn deg ond ma鈥 lot o athrawon isio mwy o amser, nid mwy o arian."

Mae Huw yn dweud bod ymddygiad disgyblion wedi gwaethygu, yn enwedig ers y pandemig, ac mai dyna un o鈥檙 heriau mwyaf.

鈥淢ae gan rai plant anghenion yn y dosbarth a rhai鈥檔 cambihafio. Mae athrawon isio gofalu amdanyn nhw a gwneud yn si诺r nad ydy plant eraill yn cael eu gadael ar 么l.鈥

Fel tad i fabi chwe mis oed, mae鈥檔 dweud ei fod yn cael treulio mwy o amser gyda鈥檌 deulu bellach, a bod hyblygrwydd yn helpu.

鈥淥鈥檔 i angen work-life balance gwell. Mae gen i fabi chwe mis oed a dwi鈥檔 gweld gwahaniaeth yn barod 鈥 gallu mynd i nofio efo fo ganol dydd a mynd i鈥檙 gogledd pan dwi isio.

"Fyswn i ddim yn gallu 'neud y petha鈥 鈥榤a fel arall.

鈥淢ae bod yn self-employed yn refreshing. Mae 鈥榥a heriau newydd yn amlwg, ond alla i wneud petha' yn fy amser fy hun a does dim gymaint o ddisgwyliadau.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Pan ti'n athro, dwyt ti byth, byth yn gorffen dy waith," meddai Elin Wyn Jones

Fe wnaeth Elin Wyn Jones, o Sir F么n yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, roi'r gorau i ddysgu 10 mlynedd yn 么l er mwyn agor ei busnes ei hun, cyn iddi droi'n ymgynghorydd ariannol yn fwy diweddar.

Dywedodd Elin, 39, fod y "pwysau'n cynyddu o hyd" yn ystod ei hamser fel pennaeth adran yn Ysgol Aberconwy ac Ysgol Dyffryn Nantlle, a'i bod yn ofni fod y pwysau ar athrawon wedi "cynyddu eto" ers iddi adael y byd addysg.

"Oedd y canlyniadau wastad yn gorfod bod yn well, oedd rhaid dangos cynnydd bob blwyddyn i'r pwynt lle oedd o'n amhosib," meddai Elin.

"Pan ti'n athro, dwyt ti byth, byth yn gorffen dy waith - ti byth yn gorffen dy to-do list.

"Ti ddim yn gorffen am dri, mae 'na lot o waith paratoi, marcio a dwi'm yn si诺r fod y pethau yna'n cael eu hystyried digon wrth gynllunio amserlenni athrawon.

"Gei di ambell i wers rydd ond 'di o'm yn agos i fod yn ddigon. Yn amlwg mae'r gwaith yn cario 'mlaen tu allan i amser ysgol wedyn."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dysgu y "math o swydd sy'n cymryd drosodd dy fywyd", meddai Elin

Dywedodd Elin fod athrawon "ar lwyfan o flaen plant" am y mwyafrif o'r diwrnod, sy'n ddigon blinedig, heb orfod ystyried yr holl waith marcio a pharatoi gwersi sy'n digwydd y naill ochr i hynny.

Mae gadael y byd addysg, fel wnaeth Elin er mwyn dechrau CannaDeli ym Mhontcanna 10 mlynedd yn 么l, yn "gam enfawr" oherwydd bod dysgu y "math o swydd sy'n cymryd drosodd dy fywyd - mae dy fywyd yn cylchdroi o gwmpas y swydd".

"Oedd fy mhenwythnosau wedi gorffen yn gynnar achos o'n i'n meddwl am bore dydd Llun, ond pan nes i weithio i fi fy hun doeddwn i'm yn cael y Sunday night blues."

'Goroesi ar adrenalin'

Dywedodd athro arall sy'n gweithio mewn ysgol uwchradd yng ngogledd Cymru ei fod wedi gorfod "bodloni fy hun 芒 bod yn athro o safon is i wneud si诺r fod gen i fywyd personol".

Dywedodd yr athro, a ofynnodd i aros yn ddienw oherwydd ei swydd: "Wnes i ddweud i fi fy hun ychydig o flynyddoedd yn 么l 'os ti'n cario ymlaen i weithio fel ti'n gweithio, ti ddim yn mynd i bara', a oedd rhaid i fi benderfynu os o'n i isio bod yn athro da neu gael bywyd personol fy hun.

"Os ti isio bod yn athro ffantastig ti'n gorfod rhoi dy fywyd i'r swydd.

"Dwi'n fodlon ddim bod yr athro 'swn i'n licio bod i gael bywyd fy hun tu allan i'r gwaith, sy'n siomedig, ond dyna'r realiti."

"Intensity" y gwaith yw'r prif reswm pam fod cymaint yn gadael, meddai, gyda llawer o athrawon yn "hongian 'mlaen" ac yn "goroesi ar adrenalin".

Mae pethau'n mynd yn waeth yn ystod asesiadau ysgolion Estyn, meddai'r athro.

"Pan mae'r ysgol yn cael ei asesu ti'n teimlo fel ti ar war-footing a ti'n goro cael Blitz mentality efo'r athrawon eraill mewn ffordd i gael drwy'r cyfnod."

Ychwanegodd fod disgyblaeth plant wedi mynd yn waeth ers y pandemig a bod toriadau'n cael "sgil-effaith ddiddiwedd ar athrawon a disgyblion".

"Mae 'na broblemau mawr yn y byd addysg a does dim syndod fod gymaint o athrawon yn gadael y maes efo bob dim maen nhw'n goro delio efo.

"'Di pethau just ddim yn mynd yn well ar y funud."

'Gwrando ar bryderon'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae lles ein gweithlu addysg yn flaenoriaeth i ni ac rydym yn gwrando ar eu pryderon.

"Rydym yn parhau i fynd i'r afael 芒 llwyth gwaith staff a lleihau biwrocratiaeth ac, wrth weithio gyda phartneriaid, mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud.

"Rydym wedi darparu 拢650,000 yn ychwanegol y flwyddyn ariannol hon i linell gymorth yr elusen Cymorth Addysg i barhau 芒'u gwaith yn cefnogi iechyd meddwl a lles staff addysg ledled Cymru, sy'n rhan o'n dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a lles."

Pynciau cysylltiedig