成人快手

Prifathro'n gwneud gwaith gofalwr i arbed arian i ysgol

Y pennaeth yn sefyll o flaen pibau'r system chwistrellu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o ddyletswyddau Gareth Lewis yw profi system chwistrellu'r ysgol yn rheolaidd

  • Cyhoeddwyd

Pan adawodd gofalwr Ysgol Aberllydan y swydd, penderfynodd y pennaeth nad oedd modd fforddio un newydd ac y byddai'n gwneud y dyletswyddau ei hun.

Mae'n enghraifft o'r pwysau sydd ar gyllidebau, wrth i ymchwil 成人快手 Cymru ddangos bod nifer o ysgolion yn chwilio am ddiswyddiadau.

Ar yr un pryd, mae gr诺p o 11 ysgol yn y gogledd yn rhybuddio y gallai toriadau i'r gefnogaeth lles arwain at fwy o waharddiadau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am addysg yng Nghymru, eu bod yn deall y pwysau sydd ar ysgolion.

Yn 么l Gareth Lewis, mae'r pwysau ar y gyllidebau yn waeth nag ar unrhyw adeg yn ei wyth mlynedd fel pennaeth yr ysgol yn Sir Benfro sydd 芒 101 disgybl.

Yn hytrach na phenodi gofalwr newydd, cytunodd gyda'r llywodraethwyr mai'r dewis gorau fyddai iddo wneud y gwaith, gan rhyddhau arian am athro dosbarth.

"Mae tamed bach yn stressful i wneud e, mae鈥檔 'neud jobyn fi tamed bach yn fwy anodd", meddai.

"Ond y positif yw, galla i roi athrawon yn y dosbarth a sdim rhaid i fi ddysgu鈥檙 plant a galla i roi mwy o amser i welliant yr ysgol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y pennaeth sy'n agor a chau giatau Ysgol Aberllydan yn Sir Benfro, yn hytrach na gofalwr

Mae'n esbonio'r dyletswyddau: "Agor lan yr ysgol yn y bore, cloi e lan yn y nos, 'neud y test larwm, neud test y t欧 pwmp yng nghefn yr ysgol, 迟别蝉迟辞鈥檙 d诺r, pethe fel 鈥檔a."

Mae'n credu bod yna bwysau arbennig ar ysgolion bach gwledig.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r ysgol wedi gorfod colli rhai staff trwy beidio adnewyddu cytundebau.

Ond eleni roedd modd osgoi diswyddiadau ar 么l derbyn arian ychwanegol gan y cyngor.

"Ma' hwnna wedi bod yn help mawr i ni. Ond ma鈥檙 budget ni鈥檔 cael at y flwyddyn newydd, dyw e ddim yn ddigon am ysgolion," meddai.

Pryder am waharddiadau

Mae penaethiaid wedi mynd ati mewn sawl ardal, gan gynnwys Sir Ddinbych a Phowys, i ysgrifennu at rieni am effeithiau toriadau ar ddisgyblion.

Ac mae gr诺p o 11 ysgol mewn ardaloedd difreintiedig yn y gogledd hefyd wedi rhannu pryderon.

Maen nhw'n poeni mai staff sy'n ymwneud 芒 lles neu bresenoldeb disgyblion fydd yn gorfod cael eu torri gyntaf.

Y perygl yw bod hynny'n arwain at fwy o waharddiadau, plant yn cael eu dadgofrestru a'u haddysgu adref.

Mae bron pob un o'r 11 ysgol, meddai'r gr诺p, wedi colli eu llyfrgellydd, a nifer o'r llyfrgelloedd yn cael eu defnyddio fel ystafelloedd lles oherwydd maint y galw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Owain Gethin Davies, Prifathro Ysgol Dyffryn Conwy, y bydd "rhaid ystyried os ydyn ni'n gallu rhedeg pob cwrs TGAU a Lefel A"

Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Owain Gethin Davies, Prifathro Ysgol Dyffryn Conwy, yn Llanrwst y gallai'r "effaith hir dymor fod yn andwyol".

"'Da chi'n ystyried pethau mewn ysgolion uwchradd fatha gorfod cynyddu maint dosbarthiadau er mwyn rhedeg y cwricwlwm a hyd yn oed ystyried os ydyn ni'n gallu rhedeg pob cwrs TGAU a Lefel A sydd yn bosib o dan yr amgylchiadau oherwydd bod cyllidebau mor dynn.

"Be da ni'n gorfod cofio ydi'r cydbwysedd rhwng lot o ddatblygiadau newydd, cyffrous 'da ni fel staff isho cyflwyno ond 'da ni'n gaeth o ran y cyllid sydd ganddon ni i wireddu hynny a bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd o ran be sy'n bosib a ddim yn bosib wrth symud 'mlaen."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Pennaeth Ysgol Garth Olwg, Trystan Edwards, yn galw am ariannu disgyblion 10 i 16 oed yn well

Mae un o bennaethiaid y de hefyd yn poeni am effaith cyllidebau tynn ar gefnogaeth lles i ddisgyblion.

"Y鈥檔 ni ddim yn gallu cyflogi digon o gynorthwywyr dysgu, cynorthwywyr lles a ma'r bobl yma鈥檔 gwneud cyfraniad amhrisiadwy i fywyd pobol ifanc", meddai Trystan Edwards o Ysgol Garth Olwg ger Pontypridd.

Mae Mr Edwards yn galw am ariannu disgyblion 10 i 16 oed yn well gan fod "heriau cynyddol" yn dod i'r amlwg ymhlith y plant yna.

Ac er mae'n gweld bod digon o bobl sy'n "creu argymhellion, yn gosod y gofynion ac yn creu canllawiau" mae yna brinder "capasiti a staff ar lawr ysgol i wireddu鈥檙 gofynion 鈥榤a a rhoi鈥檙 gwaith 鈥榤a yn weithredol yn ein hysgolion ni".

Ysgolion yn torri staff

Fe ofynnodd 成人快手 Cymru i holl awdurdodau lleol Cymru faint o'u hysgolion oedd wedi bod yn edrych ar ddiswyddiadau gwirfoddol hyd yma yn 2024.

Dywedodd rhai, gan gynnwys Caerdydd ac Abertawe, nad oedden nhw'n gallu rhoi'r wybodaeth, ond o'r 17 cyngor a roddodd ffigyrau, roedd yna gyfanswm o tua 200 ysgol yn edrych ar ddiswyddiadau gwirfoddol.

Roedd y niferoedd yn amrywio o un ysgol yng Nghasnewydd a Thorfaen, i 28 yn Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd nifer o awdurdodau lleol ei bod hi'n rhy gynnar i ddweud os fyddai angen diswyddiadau gorfodol.

Ond yn 么l Cyngor Wrecsam mae yna bosibilrwydd o saith neu wyth, a dywedodd cynghorau Gwynedd a Sir y Fflint bod pedair swydd yr un wedi'u clustnodi ar gyfer diswyddo gorfodol hyd yma.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fel cyn-aelod o bwyllgor rhieni ei hysgol leol, mae Lisa Williams wedi gweld y costau sy'n eu hwynebu

Mae Lisa Williams o Lanrwst yn fam i ddau.

鈥淢ae鈥檔 bwysig i鈥檙 ysgolion i gael yr arian ma' nhw angen, ac mae鈥檙 toriadau o flwyddyn i flwyddyn", meddai.

"O'n i ar y PTA llynedd a ma' nhw just yn cael problemau i gael yr arian i gael y trips, mae鈥檙 bysiau yn costio lot a petha' fel 'na.鈥

Yn dad i dri mae Dewi Prys Watson hefyd yn poeni.

"Dwi鈥檓 yn gwbod be 'di鈥檙 ateb, achos ma' 'na doriade dros bob peth yn does?

"Ma鈥檙 penaethiaid yn trio 'neud y gore fedran nhw efo be sy' gennan nhw.

"鈥楽wn i yn hoffi mwy o arian i鈥檙 ysgolion achos mae o鈥檔 bwysig dydy?鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cyllidebau ysgolion yn cael eu pennu gan awdurdodau lleol o gronfa sy'n dod gan Lywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n deall y pwysau sydd ar ysgolion ac wedi blaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys ysgolion, trwy amddiffyn y cynnydd yng nghyllideb llywodraeth leol."

Awdurdodau lleol sy'n penderfynu faint o gyllid sydd yn mynd i gyllidebau ysgolion, dywedodd y llywodraeth, gan addo cydweithio i sicrhau y gorau posib i ddisgyblion.

Ond mae鈥檙 Ceidwadwyr yn eu cyhuddo o gamweinyddu鈥檙 gyllideb addysg a gadael i safonau ddirywio, tra bod Plaid Cymru鈥檔 dweud bod angen gweithredu a chydnabod difrifoldeb y sefyllfa.

Pynciau cysylltiedig