成人快手

Prinder athrawon cyfrwng Cymraeg yn 'argyfwng'

Athro yn marcio gwaith
  • Cyhoeddwyd

Mae ysgrifennydd cyffredinol Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn poeni bod prinder athrawon sy'n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg "yn argyfwng".

Wrth siarad ar raglen Bore Sul, dywedodd Ioan Rhys Jones fod yna "naratif yn y gymdeithas yn datgan yn glir 'peidiwch mynd i'r proffesiwn dysgu'" a bod hynny yn 鈥渇y mhoeni'n fawr".

Fe gyfeiriodd at y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman yr wythnos ddiwethaf, gan ddweud bod digwyddiadau o'r fath yn "bownd o 'neud i ambell un feddwl ddwywaith am yrfa yn y byd addysg".

Daw ei sylwadau ddyddiau鈥檔 unig wedi i Brifysgol Aberystwyth gyhoeddi ei bod yn dod 芒'r cwrs hyfforddi athrawon yno i ben.

Ond, yn 么l un fyfyrwraig sydd ar fin ymuno 芒鈥檙 proffesiwn, y llwyth gwaith "aruthrol" yw'r rheswm fod cyn lleied yn mentro i'r maes.

'Gofid mawr' am gwrs Aberystwyth

Yn ei gyfweliad, dywedodd Ioan Rhys Jones fod y "niferoedd sy'n mynd i gyrsiau hyfforddi yn andros, andros o isel o ran y Gymraeg".

Aeth ymlaen i ddweud bod y ffaith fod y cwrs hyfforddiant cychwynnol yn Aberystwyth yn dod i ben yn "ofid mawr".

Ychwanegodd: "'Da ni'n s么n am un o gadarnleoedd yr iaith am un peth, ac un o'r ardaloedd hynny 'neith lwyddo i ddatblygu athrawon sy'n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg."

Fe holodd ydy鈥檙 鈥渁rgyfwng o athrawon sy鈥檔 gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd i waethygu?鈥 gan ychwanegu ei fod yn "gobeithio y bydd y llywodraeth yn dechrau ystyried hyn o ddifrif".

Dywedodd fod y "prinder wedi bod yn brinder ers sawl blwyddyn bellach ac mae ond am waethygu".

Ffynhonnell y llun, Ysgol Gyfun G诺yr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jeffrey Connick yw pennaeth Ysgol Gyfun G诺yr

Wrth ymateb i sylwadau Ioan Rhys Jones, roedd Jeffrey Connick, pennaeth Ysgol Gyfun G诺yr, yn cytuno bod y sefyllfa "wir yn argyfwng".

Aeth ymlaen i ddweud: "Nid cynyddu'r t芒l yw'r datrysiad - nid dyna'r broblem - ond y ffaith bod cymaint o bethau y mae disgwyl i athrawon uwchradd eu gwneud.鈥

Ac yntau wedi bod yn y proffesiwn ers dros 30 mlynedd, dywedodd ei bod yn "yrfa arbennig ac mae chwarae rhan mewn datblygu pobl ifanc yn anrhydedd", ond fod y "pwysau sydd ar y system yn enfawr".

'Storm berffaith'

Ychwanegodd mai鈥檙 hyn sydd wedi digwydd yn y byd addysg ers y pandemig yw un o鈥檙 prif resymau pam fod y pwysau ar athrawon wedi cynyddu鈥檔 ddiweddar.

"Mae'r straen sydd gyda ni yn y system addysg nawr yn straen 鈥榙w i ddim yn cofio," meddai, gan ychwanegu bod "y newid cwricwlaidd mawr", "sgil effeithiau'r pandemig" a'r "diffyg arian yn y system" yn creu "storm berffaith" o fewn y maes.

O ganlyniad i hyn, dywedodd nad oes "rhyfedd gen i fod pobl ifanc ddim yn gweld y swydd yn un apelgar", gan ddweud mai'r ateb yw cael "gwell cydbwysedd rhwng bywyd teuluol a phersonol ac amser i ymroi i'ch gwaith addysgu".

Yn 么l ffigyrau diweddaraf Ystadegau Cymru, roedd 4% yn llai yn astudio cyrsiau hyfforddi cychwynnol athrawon yn Gymraeg yn y flwyddyn 2021/22 o'i gymharu 芒'r flwyddyn flaenorol.

Er hynny, mae鈥檙 data鈥檔 dangos bod y ffigyrau wedi aros yn eithaf cyson er 2013/14.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Lois Campbell yn ei thymor olaf ar y cwrs TAR Uwchradd ym Mhrifysgol Met Caerdydd

Un sydd ar ei thymor olaf yn fyfyrwraig ar y cwrs TAR Uwchradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yw Lois Campbell, a hithau'n edrych ymlaen at gychwyn ei swydd gyntaf fel athrawes Gymraeg fis Medi.

Dywedodd mai'r prif reswm iddi ddewis dilyn y cwrs oedd gan ei bod yn "hoff iawn o'r ochr ddiwylliannol o'r radd" a bod y "syniad o roi鈥檙 cyfleoedd 鈥榥么l i blant a phobl ifanc yn rhywbeth gwerthfawr iawn".

Aeth ymlaen i ddweud mai un cymhelliant o ddilyn y cwrs oedd y grant gan Lywodraeth Cymru.

"Yn bendant, 'se ddim y grant ar gyfer pynciau lleiafrifol ar gael, bydde i'n sicr wedi ailystyried mynd mewn i ddysgu... achos roedd hwnna'n sicr yn gymhelliant mawr."

Pwysau gwaith 'aruthrol'

A hithau bron 芒 chwblhau ei chwrs, dywedodd fod y pwysau gwaith sydd ar athrawon yn "aruthrol".

"Mae'r gofynion sydd ar athrawon yn enfawr a fi'n teimlo bod hwnna o'r cychwyn cynta' yn rhoi pobl bant o ran mentro i'r maes," meddai.

Dywedodd fod nifer yn "cymryd yn ganiataol fod bod yn athrawes yn swydd 9-3" gan ychwanegu bod "cymaint o lwyth gwaith ychwanegol - y marcio, y paratoi gwersi, y delio gyda phroblemau disgyblion".

Wrth gyfeirio at y pwysau gwaith, pwysleisiodd 鈥渇od angen i rywbeth gael ei wneud".

Dywedodd bod y cwrs yn "drwm" ond ei bod "wir wedi mwynhau" ac yn falch ei bod wedi mentro i'r byd addysg, "ond mae'n rhaid i rywbeth newid".

"Rhaid i ni leihau'r baich a'r pwysau sydd ar athrawon."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pryder y gallai'r digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman arwain at rai i ailystyried gyrfa ym myd addysg

Lois yw merch yr Aelod o'r Senedd, Cefin Campbell. Brawd Mr Campbell, Darrel, oedd un o'r cyntaf i gyrraedd y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd Lois fod y digwyddiad yn "achos o bryder, a falle bydd e鈥檔 troi pobl bant o fentro i鈥檙 maes".

"Ond mae digwyddiad fel hyn yn gallu digwydd unrhyw le鈥 nid yn unig mewn ysgolion chi'n gweld achosion fel hyn yn anffodus," meddai.

"Felly er bod hyn yn mynd i dynnu sylw negyddol at addysg ac ysgolion, yn anffodus ma' hyn yn gallu digwydd unrhyw le.

"Ond mae'r hyn ddigwyddodd yn Nyffryn Aman yn sioc fawr ac yn siom."

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淩ydyn ni鈥檔 parhau i weithio gyda鈥檔 partneriaid i gynyddu nifer ein hathrawon cyfrwng Cymraeg.

鈥淢ae hyn yn cynnwys cymhelliant gwerth 拢5,000 ar gyfer y rhai sy鈥檔 astudio i fod yn athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg, bwrsariaeth o 拢5,000 i gadw athrawon uwchradd a chynnal ein gweithlu, yn ogystal 芒 grantiau i ysgolion ar gyfer Cynllun Pontio a darpariaethau lleol eraill.鈥