Cyhoeddi trefn gemau clybiau Cymru yn yr EFL
- Cyhoeddwyd
Mae Caerdydd, Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd wedi cael gwybod trefn eu gemau ar gyfer tymor 2024/25.
Cafodd y rhestrau llawn eu cyhoeddi gan Gynghrair B锚l-droed Lloegr fore Mercher.
Yn y Bencampwriaeth, fydd Caerdydd yn dechrau'r tymor gartref yn erbyn Sunderland, tra bod Abertawe yn teithio i Middlesbrough ar 10 Awst.
Ar 么l ennill dyrchafiad i Adran Un y tymor diwethaf, bydd ymgyrch Wrecsam yn dechrau gartref yn erbyn Wycombe Wanderers ar yr un diwrnod.
Yn Adran Dau, fe fydd Casnewydd yn dechrau gyda g锚m oddi cartref yn Cheltenham.
Bydd darbi de Cymru cynta'r tymor yn digwydd ychydig gemau'n unig i mewn i'r tymor newydd, yn Abertawe ar 24 Awst, cyn i'r Elyrch deithio i Gaerdydd ar 18 Ionawr.
Fe fydd Caerdydd yn herio'r gelyn o ochr arall yr afon Hafren, Bristol City, yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 15 Chwefror.
Bydd yr Elyrch gartref yn erbyn y Robins ar 28 Medi.
Dim Wrecsam yw'r unig d卯m yn Adran Un gyda pherchnogion enwog o'r Unol Daleithiau - mae gan Tom Brady, y chwaraewr p锚l-droed Americanaidd, gyfranddaliadau yn Birmingham City.
Fe fydd y Dreigiau yn wynebu'r Blues - a ddisgynnodd o'r Bencampwriaeth y llynedd - ar y Cae Ras ar 25 Ionawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin
- Cyhoeddwyd20 Mehefin
- Cyhoeddwyd21 Mehefin