成人快手

Graham Coughlan yn gadael swydd rheolwr Casnewydd

Graham CoughlanFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe olynodd Graham Coughlan James Rowberry fel rheolwr yr Alltudion ym mis Hydref 2022

  • Cyhoeddwyd

Mae Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Casnewydd wedi cadarnhau bod Graham Coughlan wedi gadael ei swydd fel rheolwr.

Mae'r Gwyddel 49 oed yn gadael Rodney Parade wedi 20 mis yn y swydd, gyda'r clwb yn dweud eu bod eisiau symud "i gyfeiriad gwahanol".

Dan arweiniad Coughlan fe orffennodd yr Alltudion yn y 18fed safle yn Adran Dau y tymor diwethaf, yn ogystal 芒 chyrraedd pedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.

Gan ddymuno'r gorau iddo yn y dyfodol, dywedodd cadeirydd Casnewydd, Huw Jenkins: "Mae gen i barch llwyr at Graham ac roedd y penderfyniad yma'n un arbennig o anodd o ystyried yr holl waith caled y mae o wedi ei wneud i helpu sefydlogi'r clwb dros y 18 mis diwethaf".

"Fodd bynnag, wrth symud ymlaen, mae'n rhaid i mi fynd 芒'r clwb a'r t卯m i gyfeiriad gwahanol ac aros yn driw i fy naliadau fy hun a fydd... dros amser yn dod 芒 llwyddiant cyson i Gasnewydd."