成人快手

Y llyfrgelloedd benthyg sy'n ceisio diogelu'r amgylchedd

Canolfan Sero
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae canolfan Sero yn cynnig gwasanaeth benthyg i'r cyhoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae sefydliad sydd wedi helpu sefydlu rhwydwaith o lyfrgelloedd benthyg drwy Gymru yn dweud eu bod yn llwyddo i arbed tua 210,000kg o ollyngiadau carbon y flwyddyn er lles yr amgylchedd.

Dywed Catrin Wager, swyddog datblygu gyda Benthyg Cymru, mai nod y llyfrgelloedd yw sicrhau fod nwyddau yn cael eu hailgylchu neu eu cylchdroi yn hytrach na'u prynu o'r newydd bob tro.

Mewn pedair blynedd mae yna 23 o leoliadau o'r fath wedi eu hagor yng Nghymru, gyda 18 arall yn y broses o wneud hynny.

Angen benthyg stripiwr papur wal?

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Siobhan Price mai'r nod yw cael pobl i gylchdroi offer yn hytrach na'u rhoi mewn safloedd tirlenwi

Mis Rhagfyr, bydd Canolfan Sero yng Nghaerfyrddin yn dathlu eu pen-blwydd cyntaf drwy symud i safle newydd yng nghanol y dref.

Dywed Siobhan Price, un o'r trefnwyr, mai'r nod yw cylchdroi ac ailddefnyddio offer yn hytrach na gwastraffu a phrynu mwy.

Mae eu Llyfrgell o Bethau - sydd 芒 70 o eitemau - yn cynnig benthyg offer am bris isel am gyfnod o tua wythnos.

"Beth ni'n trio gwneud yn fan hyn yw cael pethau i gylchdroi a chael nhw i gael eu defnyddio y rhan fwyaf o'r amser, yn lle bod pobl yn taflu offer i ffwrdd, mynd i landfill neu bod offer newydd yn mynd i gefn sied a chael eu distrywio gydag amser."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae canolfan Sero yn symud i leoliad newydd yng nghanol y dref yn mis Rhagfyr

Mae'r eitemau sy'n cael eu cynnig yn amrywio'n fawr, o beiriant torri gwrych, cymysgydd bwyd a hyd yn oed set fondue siocled.

"Pethau ma' pobl ond yn defnyddio unwaith y flwyddyn neu yn anaml, mae'n golygu llai o wastraff a llai yn mynd i landfill.

"Fel hyn maen nhw'n gallu dod i wybod does dim rhaid prynu pethau newydd bob tro."

Ymhlith yr eitemau mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd yw stripiwr papur wal a glanhawr carped.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Stondin sgrapiau Sero sy'n hapus i dderbyn defnyddiau ac offer celf a chrefft er mwyn eu hailgylchu

Mae'r eitemau yn y llyfrgell fenthyg unai yn cael eu darparu gan Sero neu yn cael eu derbyn fel rhoddion.

"Os nad y'n nhw mo'yn rhywbeth - ma' nhw'n gallu dod 芒 fe fan hyn - dim ond bod e mewn cyflwr da a bod pobl eraill yn gallu defnyddio fe wedyn."

Newydd i chi

Yng Nghaerfyrddin yn ogystal 芒 llyfrgell benthyg, mae Sero yn cynnal gweithdy atgyweirio, llyfrgell hadau a safle cyfnewid 'Newydd i chi' sy'n cynnig cyfnewid dillad a theganau plant.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae safle 'Newydd i chi' yn rhoi cyfle i rieni a phlant bach i gyfnewid dillad

Dywed Siobhan fod stondin 'Newydd i chi' yn fenter gymharol newydd i Sero, lle mae pobl yn gallu cyfnewid eitemau.

"Maen nhw'n gallu dod 芒 dillad plant fyddai yn rhy fach i'w plant nhw ac wedyn cymryd dillad arall mwy o faint fyddai'n ffitio.

"Maen nhw'n arbed arian ac maen nhw'n gwneud yn si诺r bod dillad yn cael eu defnyddio am yr amser hira' posib yn lle cael eu taflu.

"Mae yna hefyd stondin atgyweirio tecstilau.

"Ma' pobl yn dod mewn 芒 botwm 'di dod yn rhydd neu falle eisiau sip; maen nhw'n gallu dod 芒 rheiny mewn a ma' gwirfoddolwyr gennym ni, a ma' nhw'n gallu eu trwsio."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Laura Lumsden eu bod yn ceisio gwneud i bobl feddwl mewn ffordd wahanol

Menter arall sydd wedi llwyddo yng Nghaerfyrddin yw'r llyfrgell hadau.

"Ma' 'na ffi o 拢5 i ymaelodi, ond yna 'dy chi'n cael deg pecyn o hadau am ddim bob blwyddyn. Yr unig amod yw eich bod yn anfon 10 pecyn o hadau o'r cnwd rydych chi'n ei dyfu yn 么l i ni bob blwyddyn," meddai Laura Lumsden, un arall o swyddogion Sero.

Mae hynny, meddai, yn sicrhau bod yr hadau yn rhai sydd wedi peillio drwy ddulliau naturiol, ac yn fwy tebygol y bydd yr hadau yn gwrthsefyll heintiau, gan fod eu gwneuthuriad genetig yn fwy amrywiol.

"Mae'n gwneud i bobl feddwl mewn ffordd wahanol. Does dim angen prynu trwy'r amser. Mae'n dychwelyd i hen ddulliau, lle'r oedd pobl yn arfer rhannu. Mae'n rhatach ac mae'n fwy naturiol."

Benthyg ledled Cymru

N么l yn 2016, roedd Becky Harford, un o gyfarwyddwyr Benthyg Cymru, angen peiriant torri gwair, ond doedd hi ddim mewn sefyllfa ariannol i brynu un.

Ar y pryd roedd hi hefyd wedi bod yn ymgyrchu i achub ei llyfrgell leol yng Nghaerdydd, medd Catrin.

O hynny daeth y syniad pa mor dda fyddai hi i allu benthyg peiriant torri gwair o lyfrgell.

Arweiniodd hyn oll at sefydlu Llyfrgell Pethau yn 2017, yna cafod Benthyg Cymru ei sefydlu yn 2020.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Catrin Wager mae'r llyfrgelloedd yn fodd o arbed arain ac o leihau ein h么l troed carbon

Bwriad Benthyg yw cynnig cyngor i fentrau lleol sy'n cychwyn ar y daith a bod yn gyswllt canolog ond mae'r llyfrgelloedd yn amrywio o ran eu cynnwys a gweithgareddau o ardal i ardal.

Dywed Catrin Wager fod y llyfrgelloedd ledled Cymru yn arbed 210,000kg o garbon bob blwyddyn sy'n gyfystyr 芒 siwrnai 948,000 o filltiroedd mewn car petrol cyffredin.

"Drwy berchnogi eitemau'n gymunedol, a rhannu adnoddau, 'da ni'n arbed arian, arbed lle, ac yn lleihau ein h么l troed carbon."

Pynciau cysylltiedig