³ÉÈË¿ìÊÖ

Merch o Fôn sy'n rhoi ail fywyd i hwyliau cychod

  • Cyhoeddwyd
Floss LaceyFfynhonnell y llun, Floss Lacey
Disgrifiad o’r llun,

Floss Lacey

Mae merch o Ynys Môn yn rhoi ail fywyd i hen hwyliau cychod sydd wedi teithio ar hyd moroedd ar draws y byd i gyd.

O hen lofft hwyliau ei thad yng Nghaergybi mae Floss Lacey yn treulio oriau yn creu bob mathau o gynnyrch fel bagiau, waledi, ffedogau a rhaffau cŵn.

Dechreuodd ei busnes, Mouse Sails, dair blynedd yn ôl yn ystod Covid-19, ac mae ailddefnyddio ac ailgylchu yn rhan ganolog o'i hethos.

"Mae rhoi ail fywyd i'r hwyliau'n sicrhau nad ydyn nhw yn mynd i wastraff," meddai Floss. "Mae 97% o hwyliau yn mynd yn syth i landfill felly dim ond 3% 'dan i'n ail ddefnyddio."

Ail godi'r hwyl

Bu ei thad yn creu hwyliau i gychod o bob math am hyd at 30 mlynedd yng Nghaergybi ac ar ôl iddo roi'r gorau iddi aeth Floss ati i gymryd yr awenau, ond hynny mewn ffordd ychydig yn wahanol.

"Wnaeth Dad ddeud… ti methu hyd yn oed troi'r sewing machine 'mlaen, be ti'n meddwl ti am allu gwneud?" meddai Floss.

Ffynhonnell y llun, Floss Lacey
Disgrifiad o’r llun,

Floss yng nghanol pentyrrau o hen hwyliau yn y llofft yng Nghaergybi

"Ond nes i jest drio fo a dyna fo, dwi 'di bod yn gwneud o ers 3 blynedd a hanner rŵan!"

"Dwi basically yn choppio fyny gwaith wnaeth fy nhad ddechrau ei wneud 30 mlynedd yn ôl.

'Mae bob un darn yn wahanol'

Dacron ydi enw'r defnydd a ddefnyddir fel hwyliau cychod ac mae'n cynnwys ffeibr polyester, sef math o blasitg sy'n anghynaladwy.

Dyma'r defnydd cryfaf ar gyfer hwyliau ac mae ei angen ar gychod i wrthsefyll gwyntoedd cryfion a chadw ei siâp.

"Mae'n dod yn goch ac yn las ond mae'r rhan fwyaf yn wyn. Mae gan bob hwyl a chwch rif unigryw - fel cael number plate car," meddai Floss.

Ffynhonnell y llun, Dave Stott
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan bob darn ei stori ei hun

"Mae bob un darn yn dod o un hwyl. Dwi'n rhoi cerdyn hanes gyda phob un sy'n dweud i le roedd y cwch wedi hwylio a phryd oedd o ar y môr a pha fath o gwch oedd o - dinghy, cwch rasio neu gwch cruise.

Gyda'r hwyliau yn aml wedi teithio i bob ban byd mae gan bob un gymeriad unigryw a'u hanesion eu hunain.

"Dwi'n gwbod lle mae pob un wedi bod. Mi ges i un roedd dad wedi ei greu 25 mlynedd yn ôl… roedd o wedi bod o gwmpas y byd - wedi bod yn Ynysoedd y Galapagos a Seland Newydd a bob dim ac oni'n meddwl 'wow mae hyn yn rili cŵl'.

"Gan eu bod nhw wedi cael eu hailgylchu maen nhw efo llwyth o hanes. Efallai bod 'na staen neu dwll bach ar rai ohonyn nhw - mae o yna achos mae o yn rhan o'r hanes.

Ffynhonnell y llun, Floss Lacey
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o fagiau Mouse Sails

"Mae bob un darn yn wahanol, dyna sydd yn sbesial," meddai Floss.

Chwarae ei rhan

Mae Floss yn pryderu am sefyllfa amgylcheddol fregus y byd ar hyn o bryd ac mae'n gwneud ei gorau i chwarae ei rhan hithau.

"Mae'n rili pwysig achos mae pobl jest yn prynu pethau newydd trwy'r amser," meddai.

"Doeddwn i ddim yn gwbod pa mor ddrwg oedd y sefyllfa yma o ran hwyliau. Mae hwylwyr yn mynd trwy lot ohonyn nhw - yn aml maen nhw'n cael un newydd cyn pob ras."

Ffynhonnell y llun, Floss Lacey

"Maen nhw yn strechio yn y gwynt ac maen nhw yn gryfach yn newydd, felly mae'n well cael un newydd ar gyfer cystadlu, ond mae o'n wastraff colli'r rhai dydyn nhw ddim yn eu defnyddio.

"Dwi'n cael rhai weithiau ag yn meddwl, wow, mae 'na lwyth o fywyd ar ôl yn hwnna. Wedyn dwi'n cael rhai dwi'n methu eu hailgylchu achos maen nhw wedi byw. Mae o jest yn dangos sut mae pobl yn meddwl yn wahanol amdano fo.

"Mae o wir yn bwysig yn enwedig wrth edrych ar y sefyllfa mae'r amgylchedd ynddo fo ar hyn o bryd. Does ganddo ni ddim llawer o amser i wneud rhywbeth amdano fo."

Hefyd o ddiddordeb: