成人快手

成人快手 yn ymddiheuro am eu hymdriniaeth o g诺yn am Huw Edwards

  • Cyhoeddwyd
Huw Edwards yn stiwido'r 成人快手

Mae'r 成人快手 wedi ymddiheuro am y ffordd y gwnaethon nhw ddelio 芒 chwyn am y darlledwr Huw Edwards.

Cafodd honiadau am ymddygiad Huw Edwards eu gwneud ym mis Mai 2023 ond ni chafodd uwch-reolwyr y 成人快手 wybod amdanyn nhw tan 6 Gorffennaf.

Dywedodd y gorfforaeth na chafodd y g诺yn ei "throsglwyddo yn ddigon cyflym" a'u bod bellach wedi newid y drefn.

Nododd adroddiad annibynnol gan Deloitte ar drefn gwynion y 成人快手 fod cwyn wedi ei gwneud gan deulu person ifanc ar 18 Mai.

Dywedodd yr adroddiad nad oedd yr achos wedi ei gofnodi'n gywir ac nad oedd yna "broses ddogfennu" wedi digwydd er mwyn edrych eto ar yr honiadau.

Roedd hefyd yn nodi y dylai y cysylltiad cyntaf gyda'r teulu fod wedi ei drosglwyddo i'r rheolwyr perthnasol, ond nad oedd hyn wedi digwydd.

Cyfeiriwyd y sawl oedd yn cwyno at y gwasanaeth cynulleidfaoedd y diwrnod wedi iddyn nhw wneud y g诺yn.

Mae'r 成人快手 yn dweud eu bod eisoes wedi gwneud gwelliannau i'w proses gwynion a bod ganddynt gynlluniau pellach er mwyn sicrhau "mwy o gysondeb"... lle bynnag mae'r g诺yn wedi'i gwneud ac yn cael ei hadolygu.

Maen nhw hefyd yn dweud y byddan nhw yn gwneud defnydd gwell o dechnoleg er mwyn sicrhau bod "darlun cyflawn o bob achos".

Fe wnaeth papur newydd y Sun gyhoeddi honiadau am gyflwynydd newyddion y 成人快手 yn talu person ifanc am luniau anweddus.

Ar 13 Gorffennaf, fe wnaeth Vicky Flind, gwraig Huw Edwards nodi mai ef oedd yng nghanol y cyhuddiadau, gan ychwanegu y byddai'n ymateb pan yn ddigon iach i wneud hynny.

Pynciau cysylltiedig