成人快手

Gleision: Cwest llawn i farwolaeth pedwar dyn mewn glofa

  • Cyhoeddwyd
Charles Breslin, David Powell, Philip Hill a Garry JenkinsFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Charles Breslin, David Powell, Philip Hill a Garry Jenkins pan lifodd d诺r i lofa'r Gleision

Bydd cwest llawn yn cael ei gynnal i farwolaethau pedwar dyn a fu farw mewn glofa yng Nghastell-nedd Port Talbot dros ddegawd yn 么l.

Bu farw Charles Breslin, 62, David Powell, 50, Phillip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, pan ddaeth d诺r i mewn i lofa'r Gleision yng Nghilybebyll ym mis Medi 2011.

Dydd Mercher daeth penderfyniad hir-ddisgwyliedig gan Uwch Grwner Abertawe, a ddywedodd bod "gwir siawns" y gallai'r marwolaethau fod wedi'u hosgoi.

Mae teuluoedd y pedwar - sydd wedi galw ers blynyddoedd am gwest llawn i ddarganfod beth yn union oedd achos y trychineb - wedi croesawu'r penderfyniad.

Bydd gwrandawiad cyn-gwest yn cael ei gynnal yn fuan yn y flwyddyn newydd.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae honiadau fod yna gloddio anghyfreithlon wedi digwydd yn y lofa ar hyd y blynyddoedd

Mewn achos llys yn 2014 dyfarnodd rheithgor fod rheolwr a pherchnogion y Gleision yn ddieuog o ddynladdiad.

Ond roedd y teuluoedd yn dweud eu bod wedi cyflwyno adroddiad i'r crwner yn honni bod cloddio anghyfreithlon wedi digwydd yn y lofa ar hyd y blynyddoedd, allai fod wedi amharu ar ddiogelwch.

Yn Neuadd y Ddinas Abertawe ddydd Mercher, dywedodd yr Uwch Grwner Colin Phillips bod "gwir siawns" y gallai'r marwolaethau fod wedi cael eu hosgoi.

Ychwanegodd mai rheolwr y lofa, Malcolm Fyfield, yw'r "unig un sy'n gwrthwynebu" ailagor y cwest llawn.

"Er fy mod yn cydymdeimlo, nid yw ei afiechyd yn rheswm digonol i beidio ag ailddechrau cwest," meddai.

"Mae'n fwy nag amheuaeth bod y cronfeydd glo wedi'u defnyddio'n anghyfreithlon."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mavis Breslin ei bod hi'n "falch iawn" gyda'r penderfyniad

Wrth siarad wedi'r dyfarniad, dywedodd Mavis Breslin, gweddw Charles Breslin: "Fi'n ddiolchgar iawn bod e'n favourable outcome i ni.

"Mae wedi bod yn anodd just yn meddwl am beth oedd wedi digwydd a pham ni ddim wedi cael diwedd i fe gyd eto.

"Ni wedi bod yn aros yn ddigon hir - 11 a hanner o flynyddoedd - so gobeithio byddwn ni'n cael yr atebion ni wedi bod yn aros am, am sbel fawr.

"O'n ni'n falch iawn i glywed y penderfyniad achos dyna beth o'n ni eisiau."

'Brwydr hir'

Dywedodd Aelod o'r Senedd y teuluoedd, Sioned Williams: "Fi mor falch achos mae lleisiau'r teuluoedd, lleisiau pawb sydd wedi eu heffeithio yn uniongyrchol, a lleisiau'r gymuned wedi eu clywed.

"Mae pawb yn meddwl bod angen cwest llawn, a fi'n hynod o falch o'r diwedd bod eu lleisiau wedi cael eu clywed.

"Fi'n aelod o'r gymuned ac yn cofio'n iawn y noson ddigwyddodd hyn.

"Mae fy mhlant yn Ysgol Ystalyfera gyda phlant rhai o'r glowyr, a phryd nes i gael fy ethol i'r Senedd, mi wnes i addo i fy hun bydda i'n ymladd dros y bobl yma ac yn helpu rhoi llais iddyn nhw, felly rydyn ni gyd yn hynod falch heddiw.

"Bydd y misoedd a blynyddoedd i ddod yn anodd wrth orfod clywed yr holl dystiolaeth eto, ond gobeithio byddwn ni'n cael yr atebion."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y bargyfreithiwr Michael Imperato (blaen, chwith) gyda'r teuluoedd a'r AS Sioned Williams (pedwerydd o'r chwith) ar 么l y dyfarniad

Dywedodd Michael Imperato, y bargyfreithiwr sy'n cynrychioli'r teuluoedd: "Mae'r teuluoedd yn falch iawn - mae hi wedi bod yn frwydr hir iddyn nhw.

"Dywedodd y crwner fod tystiolaeth o fethiannau gan y wladwriaeth - methiannau systematig gan y wladwriaeth. Mae tystiolaeth eu bod wedi arwain at farwolaeth y dynion hyn."

Pynciau cysylltiedig