成人快手

Trychineb Gleision: Crwner i ddod i benderfyniad ar gwest

  • Cyhoeddwyd
Mavis Breslin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae'n anodd ddim gwybod beth oedd wedi digwydd," meddai Mavis Breslin

Fe fydd penderfyniad a fydd cwest llawn yn cael ei gynnal i farwolaeth pedwar dyn fu farw mewn trychineb pwll glo yn cael ei wneud cyn y Nadolig.

Bu farw Charles Breslin, 62, David Powell, 50, Phillip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39 pan lifodd d诺r i lofa Gleision yng Nghwm Tawe ym mis Medi 2011.

Yn 2014, fe gafwyd rheolwr a pherchnogion y gwaith yn ddi-euog o ddynladdiad a phenderfynodd y crwner yn erbyn cwest llawn.

Ond mae teuluoedd y rhai fu farw yn ymladd i sicrhau cwest ac yn dweud bod nifer o "gwestiynau heb eu hateb".

'11 mlynedd yn llawer rhy hir i aros'

Ddydd Gwener, mae crwner Abertawe wedi dechrau ar y broses o wneud penderfyniad hir-ddisgwyliedig ar gynnal cwest llawn i'w marwolaethau neu beidio.

Mae teuluoedd y pedwar dyn fu farw, perchnogion y pwll glo a gwleidyddion wedi dadlau ers tro bod angen cwest llawn i ddarganfod beth yn union wnaeth achosi'r trychineb.

"Mae 11 mlynedd yn llawer rhy hir i aros am atebion", meddai Mavis Breslin, gweddw Charles Breslin.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Garry Jenkins, Philip Hill, David Powell a Charles Breslin yn y trychineb

Yn y gwrandawiad ddechreuodd ddydd Gwener, mae'r crwner Colin Phillips wedi bod yn clywed dadleuon cyfreithiol gan y bargyfreithiwr sy'n cynrychioli'r teuluoedd a'r perchnogion.

Ar 15 Medi 2011, yn dilyn ffrwydro arferol yng Nglofa Gleision ger Cilybebyll, Pontardawe, gorlifodd miloedd o alwyni o dd诺r i'r twnnel lle'r oedd saith gl枚wr yn gweithio.

Er fod tri o'r saith dyn wedi dianc, methodd y pedwar gl枚wr arall ffoi.

Er gwaethaf ymdrechion i'w hachub, cadarnhawyd y diwrnod canlynol fod pedwar dyn wedi marw.

Mewn achos llys yn 2014 dyfarnodd rheithgor fod rheolwr a pherchnogion y gwaith yn ddieuog o ddynladdiad.

Mewn protest a gafodd ei chynnal ddydd Iau wrth gofeb y trychineb yng Nghanolfan Gymunedol Cilybebyll, roedd y teuluoedd yn galw ar y crwner i ymateb ar frys i'r dystiolaeth a gyflwynwyd iddo n么l ym mis Ebrill.

'Ni moyn atebion'

Roedd y dystiolaeth yn awgrymu o bosib fod blynyddoedd o fethiannau honedig gan y cyrff rheoleiddio wedi arwain at weithredwyr yn gweithio yn y pwll glo yn anghyfreithlon.

Honnodd Mavis Breslin: "O' nhw'n gwybod oedd illegal workings yn mynd ymlaen yn y Gleision yn 2009, yr un illegal workings wnaeth ladd y dynion yn 2011.

"Mae'n frustrating iawn. Ni moyn atebion. Mae'n bwysig i bob un o' ni. Mae'n anodd ddim gwybod beth oedd wedi digwydd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gollodd Alex Jenkins ei dad, Garry, yn y trychineb yn 2011

Dywedodd Alex Jenkins - mab Garry Jenkins, a fu farw yn y digwyddiad - y byddai cwest "yn bwysig i bobl y gymuned wybod beth oedd wedi digwydd".

"O'n i'n lwcus, o'n i gyda fy nhad-cu oedd yn gweithio ym mhwll glo am flynyddoedd," meddai.

"Roedd e'n gallu dweud wrtha i sut oedd pethau yn y pwll glo yn gweithio, a oedd hwnna wedi rhoi siawns i fi wneud lan meddwl fy hun am beth oedd wedi digwydd.

"Ond nid yw pobl y gymuned na'r teuluoedd gyda hwnna. Bydd e'n gr锚t i bawb gael yr atebion yn swyddogol mewn du a gwyn.

"Mae ddim cael yr atebion yn swyddogol yn galed i ddweud i bobl be ddigwyddodd.

"Does neb swyddogol wedi dweud be ddigwyddodd, dim ond chi sy'n dweud e a mae'n rhoi marc cwestiwn ar ben popeth ni'n dweud."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gerald Ward (chwith) a'i chwaer Maria Seage oedd yn berchen y pwll glo pan ddigwyddodd y trychineb - Chris Seage (dde) yw g诺r Maria

Cafodd cwest ei agor ac yna'i ohirio yn 2013.

Gerald Ward a Maria Seage oedd yn berchen ar y pwll glo pan ddigwyddodd y trychineb.

"Mae shwd gymaint o gwestiynau heb eu hateb," meddai Ms Seage. "Ni angen atebion. Ni eisiau gwybod be ddigwyddodd y diwrnod yna.

"Mae'r teuluoedd a ni eisiau atebion i pam aeth pedwar dyn i'r gwaith y diwrnod yna a byth ddychwelyd."

Wrth gofio'r 11 mlynedd ddiwethaf, fe ddywedodd Ms Seage: "Chi'n byw gyda be' ddigwyddodd pob dydd.

"Chi'n codi lan yn y bore a mynd i gysgu yn meddwl am e. Mae 'di newid ni. 'Dy'n ni ddim y bobl o'n ni cyn y digwyddiad. Fi ddim yn hoffi'r person ydw i nawr.

"Mae'n anodd achos o'n ni gyd fel teulu mawr. O' nhw ddim ond yn weithwyr, o' nhw'n ffrindiau."

'Cyfiawn a theg'

Fe ddywedodd Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o'r Senedd dros Orllewin De Cymru, fod y trychineb yn "dal i greithio'r gymuned".

"Dwi hefyd yn teimlo fod y galwadau sydd wedi bod ar gyfer cwest llawn yn rhai cyfiawn a theg. Dwi'n teimlo bod rhaid i bobl wrando ar eu lleisiau nhw," meddai.

"Maen nhw eisiau gwybod beth yn union a ddigwyddodd a beth arweiniodd at y marwolaethau.

"Er eu lles nhw, i les y gymuned ac er lles y bobl sydd dal i fod yn gweithio dan ddaear dros y Deyrnas Gyfunol, mae angen i ni gael yr atebion na chafodd eu rhoi gan yr achos cyfreithiol."

Dywedodd Christian Howells, oedd yn cynrychioli'r teuluoedd yn y gwrandawiad yn Abertawe, fod yr Awdurdod Glo a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi methu sicrhau fod gofal wedi ei gymryd a darparu ail allanfa ar gyfer y glowyr.

Roedd yn dadlau hefyd nad oedd y ffaith fod dros 11 mlynedd wedi mynd heibio ers y trychineb yn reswm dros beidio cynnal cwest.

Dyweoddd Prashant Popat KC, ar ran MNS Mining, perchnogion y Gleision, nad nad oedd yr achos troseddol ddilynodd wedi dod i gasgliad yngl欧n 芒 sut y buodd y dynion farw.

Ond fe gadarnhaodd cynrychiolydd Malcolm Fyfield, rheolwr y lofa adeg y trychineb i'r crwner nad yw ei gleient o blaid cwest oherwydd y byddai'n "niweidiol i'w iechyd".

Dywedodd Crwner Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot fod na "lawer i feddwl amdano", ac y bydd penderfyniad yn cael ei wneud cyn y Nadolig.

Pynciau cysylltiedig