Teuluoedd yn dal i ddisgwyl am gwest i drychineb Gleision
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd glowyr fu farw yn nhrychineb Gleision yng Nghwm Tawe 10 mlynedd yn 么l yn dweud eu bod nhw'n siomedig gyda'r oedi wrth benderfynu a fydd yna gwest i'w marwolaethau.
Bu farw Charles Breslin, 62, David Powell, 50, Phillip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, pan lifodd d诺r i'r pwll glo ym mis Medi 2011.
Mewn achos llys yn 2014 dyfarnodd rheithgor fod rheolwr a pherchnogion y gwaith yn ddieuog o ddynladdiad.
Mae'r teuluoedd yn dweud eu bod nhw wedi cyflwyno adroddiad i'r crwner sy'n honni fod yna gloddio anghyfreithlon wedi digwydd yn y lofa ar hyd y blynyddoedd, allai fod wedi amharu ar ddiogelwch y gwaith.
Maen nhw'n dweud fod y crwner wedi addo ateb naill ffordd neu'r llall yngl欧n 芒 chwest erbyn y Nadolig, ac yna erbyn diwedd Ionawr, ond maen nhw'n dal i ddisgwyl.
Yn 么l Mavis Breslin, gweddw Charles Breslin: "Mae'n lot o stress achos bod ni wedi bod yn aros mor hir. Ydyn ni'n mynd i gael un neu beidio?"
"Mae'r teuluoedd i gyd yn gobeithio ein bod ni. Fi ishe gwybod beth oedd wedi digwydd cyn y ddamwain - sut gyflwr oedd ar y gwaith? Roedd yr amodau gwaith yn ddifrifol.
"Does dim byd ar y death certificate, dyna beth licen i gael."
Fe lifodd d诺r i'r pwll ar 么l i'r glowyr ddefnyddio ffrwydron i dorri trwyddo i hen ran o'r gwaith i geisio gwella'r amodau yno.
Yn ystod yr achos llys fe ddywedodd y rheolwr Malcolm Fyfield ei fod wedi archwilio'r hen waith cyn y ddamwain, ac nad oedd d诺r yno.
Dyfarnodd rheithgor yn Llys y Goron Abertawe ei fod ef a pherchnogion y gwaith yn ddieuog o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol a dynladdiad corfforaethol.
Yn dilyn yr achos penderfynodd crwner ardal Abertawe na fyddai'n cynnal cwest.
Daw'r alwad ddiweddaraf am gwest ar 么l i ddau o'r glowyr a oroesodd ddweud wrth 成人快手 Cymru llynedd eu bod yn poeni nad oedd yr awdurdodau wedi llwyddo i fynd at wraidd y trychineb.
Mae un fu'n gweithio fel syrf毛wr yno hefyd wedi codi cwestiynau am r么l y Gweithgor Iechyd a Diogelwch wrth arolygu'r gwaith.
Yn dilyn y ddamwain fe ddywedon nhw wrth 成人快手 Cymru na allen nhw wneud sylw gan mai'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron oedd yn arwain yr ymchwiliad.
Does gan yr un o'r teuluoedd dystysgrif marwolaeth gyflawn.
Yn 么l Alex, mab Garry Jenkins, chafon nhw ddim o'r darlun llawn yn yr achos llys.
"Roedd yna lot o bethau doedden nhw ddim yn gallu siarad amdanyn nhw yn ystod yr achos," meddai.
"Mae lot o bethau dal dan y mat.
"Mae'r teuluoedd, y gymuned, pawb sydd 芒 diddordeb, maen nhw i gyd eisiau i rywbeth ddod mas o'r inquest iddyn nhw gael gwybod beth oedd wedi digwydd."
Mae perchennog y gwaith hefyd yn cefnogi'r alwad am gwest.
'Cael y darlun llawn'
Mae'r Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams yn byw gerllaw. Mae hi wedi ysgrifennu at y crwner yn alw am gynnal cwest.
"Mae 'di bod yn 10 mlynedd o s茂on, o gwestiynau ac yn amlwg o ofid a phryder ofnadwy i'r teuluoedd, sy'n teimlo'u bod nhw ddim wedi cael yr atebion maen nhw eu hangen am amgylchiadau llawn colli eu hanwyliaid," meddai.
"Mae 'na rai cwestiynau wedi eu codi gan ymchwiliadau annibynnol, ac felly dwi'n meddwl ei bod hi'n deg bod cwest yn edrych ar y cwestiynau rheiny i fedru gweld a ydyn ni'n gallu cael y darlun llawn yngl欧n 芒'r hyn achosodd y ddamwain y diwrnod hwnnw"
Mae'r Aelod Seneddol lleol, Christina Rees hefyd yn cefnogi cynnal cwest ac wedi cysylltu 芒'r gweinidog yn Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y Gweithgor Iechyd a Diogelwch.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2021
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2015
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2014