成人快手

Canlyniadau TGAU yng Nghymru wedi wythnos helbulus

  • Cyhoeddwyd
neuadd arholiadauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn sgil cyfyngiadau Covid-19 doedd dim rhaid i ddisgyblion TGAU 2020 sefyll eu arholiadau

Mae miloedd o ddisgyblion yng Nghymru yn cael eu canlyniadau TGAU ac eleni fe fydd rhain yn seiliedig ar farn eu hathrawon.

Daw'r newid ar 么l i 42% o ganlyniadau Safon Uwch gael eu hisraddio ar 么l proses safoni.

Wedi protestiadau, beirniadaeth gref a ffrae wleidyddol, fe wnaeth Llywodraeth Cymru dro pedol ochr yn ochr 芒 newidiadau tebyg mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Yn gyffredinol mae disgwyl i ganlyniadau TGAU fod yn sylweddol uwch gan na fydd graddau yn cael eu hisraddio.

Cafodd system ei sefydlu i ddarparu graddau ar 么l i arholiadau gael eu canslo yn yr haf oherwydd y pandemig.

Ond cafodd newidiadau eu gwneud ar y funud olaf ar 么l pryderon am annhegwch i ddisgyblion, cyn i'r pwysau cynyddol arwain at drawsnewid y drefn ddydd Llun.

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi ymddiheuro'n ddiamod i bobl ifanc Cymru am helyntion y broses ganlyniadau eleni.

Yn 么l yr arfer, bydd disgyblion yn derbyn eu graddau drwy eu hysgol ond oherwydd y pandemig bydd rhai yn cael e-bost yn hytrach nag ymweld 芒'r ysgol yn bersonol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Kirsty Williams yn dweud y bydd adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal i ganlyniadau arholiadau Safon Uwch

Un sy'n disgwyl ei chanlyniadau yw Maisey Evans, disgybl 16 oed o Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhont-y-p诺l.

Mae'n gobeithio parhau gyda'u hastudiaethau a dilyn cwrs Safon Uwch ym Mathemateg, Cemeg, Bioleg a Gwleidyddiaeth.

"Mae'n mynd i fod yn ddiwrnod hynod o stressful fi'n meddwl. Fi'n teimlo'n eitha nerfus i weld canlyniadau fi ond yn gyffrous hefyd," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Maisey Evans yn ofni y bydd rhai pobl yn meddwl bod y graddau yn rhy uchel

"Mae'r wythnos diwethaf wedi bod yn hollol nightmare fi'n meddwl - mae pawb yn fy mlwyddyn i wedi bod yn stresso mas am fory - mae wedi bod yn dda i weld bod y llywodraeth wedi 'neud yr u-turn yma. Ni gyd yn teimlo'n well nawr.

"Mae'r ffaith bod nhw'n mynd i ddewis yr uchaf o'r canlyniadau yn wych - hynny yw naill ai canlyniad yr algorithm neu canlyniad yr athro.

"Mae'n dda ein bod yn cael y cyfle yna ond efallai yn y dyfodol bydd pobl yn meddwl eu bod yn raddau rhy dda ar gyfer ni," ychwanegodd.

Disgwyl i fwy gael gradd A* neu A

Roedd canlyniadau'r haf i fod i gael eu mesur drwy "safoni" graddau oedd wedi eu cyflwyno gan athrawon.

Roedd rhain yn seiliedig ar gyrhaeddiad y disgybl pe na bai'r arholiadau wedi'u canslo oherwydd haint coronafeirws.

Rydym eisoes yn gwybod bod cyfran y graddau uchaf sydd wedi eu rhoi gan athrawon yn uwch na chanlyniadau llynedd.

Mae Cymwysterau Cymru'n nodi byddai 24.5% yn cael gradd A* neu A, o'i gymharu 芒 20% yn 2019. Hefyd bydd 73.4% yn cael gradd A * i C, o'i gymharu 芒 62.4% yn 2019.

Mae'r corff arholi CBAC wedi dadlau y gallai canlyniadau anghyson effeithio ar ddisgyblion y dyfodol.

'Y graddau yn gwbl ddilys'

Ond er gwaetha'r graddau uwch mae Dr Rhian Barrance o Brifysgol Caerdydd yn meddwl ei fod yn bwysig bod y canlyniadau eleni yn cael eu hystyried fel rhai "dilys".

"Mae lot wedi bod yn dweud sut y dylen ni ymddiried mewn graddau ma' athrawon wedi penderfynu a ma' lot o dystiolaeth bod athrawon yn gallu rhoi graddau dilys i ddisgyblion," meddai.

"Allech chi ddadlau eu bo nhw'n fwy dilys na graddau mae disgyblion yn cael mewn arholiadau er enghraifft, achos bod arholiadau'n ddwy awr - mewn un diwrnod - ac mae gan athrawon wybodaeth dros yr hir dymor am sut ma disgyblion yn gwneud.

"Felly mae'n bwysig iawn bo ni ddim yn gweld y graddau eleni'n ddiwerth a bo ni'n ymddiried yn y graddau mae athrawon wedi rhoi i ddisgyblion."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd nifer yn cael y canlyniadau drwy e-bost yn sgil y pandemig

Beth fydd yn ei olygu i ddisgyblion?

  • Fydd dim modd i ddisgyblion gael gradd is na asesiad eu hathro.

  • Os yw'r radd sydd wedi'i "safoni" gan y bwrdd arholi yn uwch na'r hyn gafodd ei asesu gan yr athro, yna ni fydd disgyblion ar eu colled ac mi fyddan nhw'n cadw'r radd uwch.

  • Cyn yr helynt y bwriad oedd ehangu'r broses apelio ond mae'r manylion yn cael eu hadolygu wedi tro pedol y llywodraeth ac mae disgwyl mwy o wybodaeth yn fuan.

Bydd yr ymateb i'r canlyniadau yn llawn ar ein llif newyddion byw yn ystod y bore.