成人快手

Pryder bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 'hybu' figaniaeth

Glyn Roberts
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Glyn Roberts ei fod yn poeni bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn" hybu figaniaeth er eu bod nhw yn dibynnu ar y diwydiant amaeth"

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud bod y cynnig i werthu mwy o fwyd figan yng nghaffis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn "druenus" ac yn niweidio tenantiaid yr elusen.

Mae Glyn Roberts yn ffermio gyda鈥檌 ferch Beca ar un o ffermydd yr ymddiriedolaeth yn ardal Ysbyty Ifan.

"Be' dwi鈥檔 boeni am bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn hybu figaniaeth er eu bod nhw'n dibynnu ar y diwydiant amaeth 鈥 yn yr ardal yma beth bynnag 鈥 i fod yn gynaliadwy iddyn nhw a ni," meddai wrth raglen Ffermio S4C.

Yng nghyfarfod blynyddol yr elusen ar 2 Tachwedd, mae 'na gynnig gan bum aelod sy鈥檔 argymell codi canran y bwyd figan sy鈥檔 cael ei werthu yn eu caffis o 40% i 50%.

Ond er mai cynnig gan yr aelodau ydi hwn, mae鈥檔 cael ei gefnogi gan fwrdd ymddiriedolwyr yr elusen.

Mewn datganiad, dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y byddan nhw'n parhau i gadw cynnyrch llaeth, wyau a chig ar y fwydlen ac yn parhau i gydweithio鈥檔 agos 芒 ffermwyr.

'Dydi o ddim yn gwneud synnwyr mynd yn llysieuol'

Mae Beca Glyn, sy'n cefnogi ei thad, yn cwestiynu sut mae mynd yn llysieuol yn well i'r amgylchedd.

Dywedodd: "Dydi o ddim yn gwneud synnwyr mynd yn llysieuol 鈥 dydi鈥檙 llysiau ddim yn mynd i fod yna drwy鈥檙 flwyddyn felly bydd yn rhaid mewnforio cynnyrch.

"Sut mae hynny yn well i鈥檙 amgylchedd? Mi fasa鈥檔 well i gaffis yr ymddiriedolaeth gefnogi cynnyrch lleol o fewn ardal y caffis,鈥 meddai.

Mae Glyn Roberts yn pwysleisio nad dadl rhwng amaethwyr a figaniaid sydd dan sylw ond yn hytrach be ydi pwrpas a nod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Dywedodd mai "rheswm am fodolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ydi edrych ar 么l hanes, treftadaeth a harddwch ardal".

"Os ydyn nhw'n hybu figaniaeth, sut maen nhw'n medru cadw yn gynaliadwy dreftadaeth, iaith, harddwch ardal, pobl i fyw yng nghefn gwlad a phobl i gyfrannu at economi cefn gwlad os ydyn nhw ddim yn bwyta ein cynnyrch ni ein hunain?"

"Amaethyddiaeth sydd wedi cadw鈥檙 petha' sy鈥檔 bwysig i鈥檙 Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac maen nhw yn troi eu cefn ar hynny ac yn ein gwerthu ni lawr y ffordd... mae hynny i mi yn druenus iawn," ychwanegodd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Beca Glyn y byddai'n "well i gaffis yr Ymddiriedolaeth gefnogi cynnyrch lleol o fewn ardal y caffis"

Dywedodd Tim Jones, ymgynghorydd amgylcheddol annibynnol ac aelod o鈥檙 Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ei fod am bleidleisio yn erbyn y cynnig yn y cyfarfod blynyddol.

鈥淢ae鈥檙 sefyllfa hefo鈥檙 amgylchedd wastad yn fwy cymhleth nag y mae鈥檔 edrych ar yr wyneb. I mi - mi fasa鈥檔 well iddyn nhw ganolbwyntio ar fwyd cynaliadwy - pa bynnag fath o fwyd ydi o.

"Yn y cynnig mae鈥檔 deud bod cig yn ddrwg a phlanhigion yn dda 鈥 dydi o ddim mor glir 芒 hynny.

"Mae lot o鈥檙 cig sydd wedi ei gynhyrchu yng Nghymru 鈥 does 'na ddim concentrates yn dod i mewn, maen nhw鈥檔 bwyta glaswellt, maen nhw鈥檔 pori a helpu rheoli cynefin.

"Mae鈥檙 syniad os 'da ni i gyd yn mynd yn figans neu yn llysieuwyr y bydd y byd yn lot gwell - dio ddim mor syml 芒 hynny."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Tim Jones fod "sefyllfa hefo鈥檙 amgylchedd wastad yn fwy cymhleth nag y mae鈥檔 edrych ar yr wyneb"

Mae gan yr elusen dros 300 o lefydd gwerthu bwyd ar hyd a lled Prydain, a'r llynedd roedd gwerthiant yn 拢100m.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ydi un o dirfeddianwyr mwyaf Prydain, gyda bron i 1500 o denantiaid. Mae 51 o鈥檜 ffermydd yn Ysbyty Ifan.

Yn 么l Glyn Roberts, does dim dwywaith bod yr elusen wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i鈥檙 gymuned, y diwydiant amaeth a鈥檙 iaith yn yr ardal drwy gadw鈥檙 ffermydd yma - a pheidio ag uno ffermydd.

Ond mae o'n credu bod y dyfodol yn fwy ansicr.

鈥淢ae 'na elfennau yn dod i鈥檙 Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y blynyddoedd diwethaf sy鈥檔 peryglu'r dyfodol i ffyniant cefn gwlad yn ardal Ysbyty Ifan,鈥 meddai.

Mewn datganiad, dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol eu bod am i'w caffis "fod yn fwy cynaliadwy" a'u bod "eisiau parhau i gynnig amrywiaeth ardderchog o fwyd gan fodloni dewisiadau newidiol ein hymwelwyr ar yr un pryd".

"Mae tua dwy ran o bump o鈥檔 bwydlen yn blanhigol ar hyn o bryd a gallwn gynyddu hynny i hanner y fwydlen dros y ddwy flynedd nesa."

Pynciau cysylltiedig