Y g诺r a greodd ei 'arian Cymreig' ei hun
- Cyhoeddwyd
Cymru yw un o鈥檙 unig wledydd sydd yn cynhyrchu aur ond ddim ei harian papur ei hun.
Yn 1969, penderfynodd g诺r o Landudno, Richard Williams drio newid hyn, drwy ryddhau ei arian ei hun i bobl ei wlad.
Mae Peter Symes yn awdur sydd yn ymddiddori mewn arian cyfred (currency) o bedwar ban byd ac yma mae'n adrodd hanes y g诺r a geisiodd herio awdurdod y Llywodraeth a'r system fancio:
Banc Cymru
Yn 1968, roedd yna ddadl yng Nghymru yngl欧n 芒鈥檙 posibilrwydd o sefydlu Banc Cymreig a fyddai鈥檔 cael ei ddefnyddio i hyrwyddo masnach a diwydiant o fewn y wlad.
Wrth i鈥檙 dadlau barhau o鈥檌 gwmpas, ysgrifennodd Mr Richard Williams 鈥 g诺r oedd wedi bod yn y busnes bancio er blynyddoedd 鈥 at Brif Weinidog Prydain i ofyn am sicrhad mai dim ond cwmni oedd 芒 lles Cymru mewn golwg 芒 fyddai鈥檔 cael defnyddio鈥檙 enw 鈥Bank of Wales鈥.
Cafodd ymateb gan y Bwrdd Masnach yn nodi: 鈥You may be rest assured that no company would be registered with the name of Bank of Wales Ltd, unless the Board considered this fully justified.鈥
Doedd Richard Williams ddim yn rhy hoff o鈥檙 llywodraeth fiwrocrataidd bryd hynny, ac mewn ymateb i鈥檙 llythyr, penderfynodd gofrestru cwmni gyda鈥檙 enw Prif Trysorfa Cymru Cyfyngedig. Cafodd y cwmni ei gofrestru, gan fod y Bwrdd Masnach (Board of Trade), mae鈥檔 debyg, ddim wedi deall beth oedd ystyr yr enw Cymraeg ar y cwmni.
Ysgrifennodd Mr Williams at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan nodi nad oedd rhaid i鈥檙 dadlau dros sefydlu Banc Cymru barhau, oherwydd ei fod wedi cymryd y camau angenrheidiol i sefydlu ei gwmni ei hun, a fyddai er budd Cymru.
Prif Trysorfa Cymru... yn Llandudno
Y cam naturiol nesaf oedd i gynhyrchu rhyw fath o arian cyfred.
O fewn ychydig fisoedd, roedd Prif Trysorfa Cymru Cyf. yn rhyddhau archebion talu (payment orders) a oedd yn edrych ac yn gweithio鈥檔 debyg i sieciau. Roedd inc magnetig ar waelod y papurau, a oedd yn golygu eu bod yn ddilys; oherwydd profiad Mr Williams yn y diwydiant cyfrifiaduro, roedd yn gwybod fod hyn yn angenrheidiol er mwyn cael eu prosesu鈥檔 effeithlon.
Cysylltodd y Bwrdd Masnach; roedden nhw o鈥檙 diwedd wedi sylweddoli beth oedd cyfieithiad cywir Prif Trysorfa Cymru Cyfyngedig... Roedd y llythyr yn holi beth oedd cynlluniau Mr Williams ac os fyddai鈥檔 fodlon i newid enw鈥檙 cwmni.
Ymateb Richard Williams oedd nad oedd yn awyddus i newid yr enw, ac ei fod yn bwriadu, yn fuan iawn, i ryddhau mwy o nodau arian. Fe greodd y papurau yma yn syth ar ei deipiadur 鈥 10/-, 拢1, 拢5 a 拢10 鈥 gydag ysgrifen Cymraeg yn nodi bwriad Prif Trysorfa Cymru i dalu鈥檙 swm o arian ar gais.
Er mwyn bod yn gyfreithlon, roedd rhaid cael stamp treth dwy geiniog gan Fwrdd y Cyllid Gwladol (Board of Inland Revenue). Cafodd hyn ei wneud heb ffws o gwbl.
Ar y papurau cyntaf roedd testun dwyieithog yn datgan: 鈥榊 mae Prif Trysorfa Cymru Limited yn gaddo talu y cludwr pan yr hawlio y swm o X鈥. Roedden nhw wedi eu llofnodi gan R. Hugh Williams ac wedi eu dyddio 17 Mawrth 1969. Cawson nhw eu hargraffu yng Nghraig y Don, Llandudno.
Erbyn hyn, roedd y cyfryngau wedi cael gafael ar y stori, ac roedd galw mawr am y papurau, felly aeth ati i anfon mwy at Fwrdd y Cyllid Gwladol i gael y stamp swyddogol.
Fodd bynnag, roedd y cyhoeddusrwydd yn golygu fod mwy o ofal wedi cael ei wneud wrth archwilio鈥檙 papurau yma. Cafodd Richard Williams wybod fod y Ddeddf Papurau Banc 1826 yn atal nodau am swm llai na 拢5 rhag cael eu stampio 鈥 a bod y rhai a dderbyniodd stamp yn flaenorol wedi eu gwneud mewn camgymeriad.
Wnaeth hyn ddim lleihau ei frwdfrydedd, ac anfonodd nodau 拢5 a 拢10 i gael eu stampio, a cafodd y papurau am symiau llai, oedd heb gael y stamp swyddogol, eu 鈥楥anslo鈥 a鈥檜 gwerthu fel cofroddion.
Cwmni y Ddafad Ddu
Ar 26 Mawrth 1969, cafodd Mr Williams ei gynghori y byddai鈥檔 rhaid iddo newid enw ei gwmni gan ei fod yn gamarweiniol. Cyn newid yr enw, argraffodd un papur olaf, a hynny am 拢1,000,000.
Penderfynodd ar 'Cwmni y Ddafad Ddu Gymreig Cyfyngedig'; enw roedd y Bwrdd Masnach yn hapus efo fo. Mae鈥檔 rhaid nad oedd y swyddogion yn ymwybodol mai dyma oedd enw鈥檙 banc Cymreig diwethaf, pan ryddhaodd Banc Aberystwyth a Thregaron nodau gyda lluniau defaid duon arnyn nhw; hanes oedd yn gyfarwydd i Gymry ond nid i Saeson.
Ar y nodau newydd, ynghyd 芒 lluniau defaid du, roedd y geiriad 鈥楪ynt Prif Trysorfa Cymru Cyfyngedig鈥.
Dros y misoedd nesaf, cafodd nodau a gwahanol ddarluniau arnyn nhw eu rhyddhau, fel y casgliad cestyll, gyda lluniau rhai o鈥檔 cestyll gorau 鈥 Talacharn, Conwy, Harlech a Chaerdydd 鈥 a鈥檙 nodau 芒 phontydd arnyn nhw: Pont Britannia a Phont Borth.
Ar 么l tua wyth mis, ac ar 么l stampio rhyw 100,000 o nodau Richard Williams, cysylltodd Bwrdd y Cyllid Gwladol i ddweud na ddylan nhw fod wedi stampio dim o gwbl. Er hynny, cafodd 10,000 nod arall eu stampio yn Swyddfa Stampio Manceinion ddiwedd Tachwedd 1969.
Roedd y Bwrdd y Cyllid Gwladol yn ceisio meddwl am bob ffordd posib o roi diwedd ar brosiect arian Richard Williams. Ym mis Mawrth 1970, cafodd y defnydd o arfbais Tywysog Cymru ar yr arian i gwestiynu. Ymateb Mr Williams oedd i addasu鈥檙 logo ychydig.
Dros y misoedd nesaf, parhaodd Mr Williams i ryddhau mwy o nodau arian, fel cofroddon pan gafodd Bont Britannia ei ddifrodi gan d芒n, a phapurau arbennig, gyda lluniau o Gymry nodedig arnyn nhw i nodi鈥檙 system arian degol newydd, ddechrau Chwefror 1971.
Embaras a llwyddiant
Yn 1971, daeth y Llywodraeth i ben 芒鈥檙 dreth stamp oedd wedi bod mewn lle ers 118 o flynyddoedd. Roedd menter Richard Williams wedi codi embaras i'r sefydliad, ac felly roedd o'n teimlo ei fod wedi llwyddo.
A dyna ni ddiwedd ar ymgais rhyddhau papur arian Richard Williams... bron. Yn 1985, rhyddhaodd nodau 拢1 a 拢5 o dan yr enw Chipping Sodbury Treasury. Roedd hyn er mwyn helpu trigolion y dref fechan yn Swydd Gaerloyw a oedd wedi siomi fod y papur 拢1 wedi diflannu, a darn arian wedi cymryd ei le yn 1983. Dywedodd iddo wneud hyn am ei fod yn 鈥榚ithaf hoffi enw鈥檙 lle鈥.
Bu farw Richard Williams yn fethdalwr yn 1988.
Mae鈥檙 nodau unigryw yn parhau i fod yn boblogaidd ymhlith casglwyr arian, sydd yn awyddus i鈥檞 hychwanegu i鈥檞 casgliadau.
Gwybodaeth ychwanegol o Money Galore: The Story of the Welsh Pound gan Ivor Wynne Jones
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd23 Hydref
- Cyhoeddwyd29 Awst
- Cyhoeddwyd24 Ionawr