成人快手

Galw am addysg ddeintyddol yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
deintyddfa Porthaethwy

Bydd deintyddfa ym Mhorthaethwy ar Ynys M么n yn cau o fewn yr wythnosau nesaf.

Mae cannoedd o gleifion yn wynebu'r dewis un ai o dalu am driniaeth breifat neu deithio'n bell i wneud defnydd o'r gwasanaeth iechyd.

Dyma'r ddeintyddfa ddiweddaraf i gau ar draws Cymru, gyda chleifion yn aml yn gorfod teithio cryn bellter er mwyn derbyn gwasanaeth ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn hytrach na mynd i ddeintyddfa breifat.

Mae Aelod Cynulliad M么n, Rhun ap Iorwerth yn dweud fod y newyddion yn tanlinellu'r problemau sy'n wynebu'r gwasanaeth deintyddol yng Nghymru.

Dywedodd: "Mae 'na ddiffyg deintyddion... mae 'na gytundebau deintyddol sydd ddim yn gweithio ac mae pobl yn gorfod teithio yn llawer rhy bell i gael triniaeth os ydyn nhw'n gallu dod o hyd i rywun sy'n gallu gwneud y gwaith ar yr NHS.

"Dwi'n meddwl yn yr un ffordd ag ydan ni wedi cael llwyddiant yn cael cyflwyno addysg feddygol llawn amser yma yn y gogledd, mae angen edrych tuag at gyflwyno addysg ddeintyddol hefyd, oherwydd mae'n rhaid i ni gael deintyddion yn dod i mewn i'r system."

Mae'n rhaid i bobl yn y Gymru wledig deithio'n bell os ydyn nhw am ddod o hyd i ddeintydd sy'n fodlon derbyn cleifion newydd o fewn y gwasanaeth iechyd.

Yng Ngheredigion mae'r broblem ar ei gwaethaf gyda phobl yn ardal Aberystwyth yn gorfod teithio 88 milltir. Dydi Llanbed fawr gwell, yn 85 milltir. Ardal Caergybi sydd yn y trydydd safle, gyda thaith o rhyw 59 milltir yn wynebu cleifion yno.

Mae Cymdeithas Ddeintyddol Cymru yn dweud fod y sustem bresennol o gytundebau yn gwneud pethau'n waeth, gan gyfyngu nifer y cleifion sy'n cael eu gweld gan ddeintyddion.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod nhw'n cydweithio 芒 deintyddion eraill ar Ynys M么n i geisio dod o hyd i lefydd ychwanegol i wneud yn iawn am y rhai fydd yn cael eu colli ym Mhorthaethwy.

Maen nhw hefyd yn gwneud ymdrech i ailsefydlu gwasanaeth yn yr ardal.d.