成人快手

Iaith Arwyddion: 'Does na鈥檓 ffordd arall allen ni fyw'

Miriam AlunFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Miriam Alun yn astudio cwrs iaith arwyddion ym Mhrifysgol Caeredin

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw ifanc wedi beirniadu'r penderfyniad i oedi cyflwyno Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel cymhwyster TGAU yng Nghymru.

Yn 么l Miriam Alun, 18, mae peidio cyflwyno'r cymhwyster yn "gam yn 么l go iawn".

Yn gynharach eleni cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y byddai TGAU newydd mewn BSL ar gael o 2027 - blwyddyn yn hwyrach na'r bwriad gwreiddiol.

Ond mae鈥檙 sefydliad bellach wedi dweud fod datblygu'r cymhwyster yn cyflwyno llawer o "heriau ymarferol i'r sector addysg yn ei gyfanrwydd".

Bydd disgyblion yn gallu astudio unedau llai mewn BSL yn lle hynny, meddai Cymwysterau Cymru.

'Brwydro am y Gymraeg a BSL'

Mae Miriam, sy'n wreiddiol o Abergele, newydd ddechrau astudio cwrs iaith arwyddion ym Mhrifysgol Caeredin.

"Mae cymaint o ymgyrchu a gwaith caled wedi mynd i wneud y cymhwyster yn realiti, o鈥檔 i鈥檔 gutted rili achos mae o鈥檔 rhywbeth mor bwysig," meddai wrth Cymru Fyw.

"'Dan ni fel pobl Cymraeg yn brwydro am yr iaith Gymraeg, a 'dan ni hefyd yn brwydro am yr iaith yma."

Dywedodd nad yw'r penderfyniad yn deg a bod rhaid ailystyried cyflwyno'r cymhwyster.

鈥'Dan ni angen fo, does 'na鈥檓 ffordd arall allen ni fyw.

鈥淢ae jest yn 'neud ti deimlo fel bod ti ddim yn bwysig fel person byddar yng Nghymru.鈥

Dywedodd Cymwysterau Cymru y bydd modiwlau - neu unedau - BSL ar gael fel cymhwyster Sgiliau am Oes newydd yn lle.

Ychwanegodd y sefydliad y byddai'r rhain yn "galluogi ysgolion ledled y wlad i gynnig cymwysterau sy'n cynnwys Iaith Arwyddion Prydain, gyda mwy o ddysgwyr yn gallu datblygu sgiliau ymarferol".

Ond yn 么l Miriam, byddai cymaint o bobl yn buddio o gymhwyster TGAU.

"O鈥檔 i鈥檔 siomedig iawn yn clywed bod nhw 'di mynd yn erbyn o a d'eud bod nhw ddim isio 'neud," meddai.

"Dwi'n gallu clywed rhywfaint a dwi'n gallu clywed r诺an. Dwi ddim yn yr un sefyllfa a phlant sy鈥檔 hollol fyddar a鈥檙 teimlad yna o fod yn unig.

"Byddai cymaint o bobl 'sa鈥檔 buddio ohona fo."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pan oedd Miriam yn ifanc, dywedodd fod ei brawd hi'n aml yn siarad drosti

Cafodd Miriam ddiagnosis o鈥檌 nam clyw gwan i ganolig pan oedd hi鈥檔 chwech oed.

Dywedodd ei bod hi鈥檔 aml wedi teimlo fel 鈥burden鈥 yn yr ysgol wrth iddi orfod gofyn i鈥檞 ffrindiau ailadrodd brawddegau.

鈥淧an o鈥檔 i鈥檔 ifanc o'dd clyw fi lot gwaeth ag o'dd brawd fi鈥檔 siarad lot drosta fi oherwydd doeddwn i ddim yn deall be oedd yn mynd 'mlaen so o'dd o鈥檔 reit isolating yn y ffordd yna.

鈥淥鈥檔 i鈥檔 methu allan a gorfod gofyn 鈥榖e' o'dd hwnna鈥 so o' ti yn teimlo fatha burden ond ma' pobl yn dod i ddeall.

鈥淵 peth mwyaf anodd yn yr ysgol oedd angen, d'eud be o鈥檔 i angen, felly mae'n amlwg bod plentyn ifanc ddim yn mynd i gael yr hyder i ddeud 'dwi angen hwn' i allu bod yn equal efo pawb arall.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Miriam yn arfer gofyn i鈥檞 ffrindiau yn yr ysgol ailadrodd brawddegau wrth siarad 芒 hi

Dechreuodd Miriam ddysgu BSL mewn gwersi nos pan roedd hi鈥檔 16 oed.

Dywedodd y byddai TGAU arwyddo iaith wedi 鈥渁gor fy myd i fyny i hyd yn oed fwy o bethau鈥.

Yn 么l Miriam, byddai'r cymhwyster yn gwella perthynas pobl fyddar a phobl clyw.

"Ma' pobl efo rhyw fath o ofn i siarad efo pobl fyddar oherwydd ma'n nhw ofn i 'neud y peth anghywir.

"'Swn i鈥檔 gweld e鈥檔 help nid yn unig plant byddar ond pobl h欧n hefyd i allu cyfathrebu鈥檔 ddyddiol.

"Bod gan bobl y basics yna i allu cyfathrebu a ddim hyd yn oed mewn ffordd dwfn ond bod pobl yn gallu deud helo a gallu gofyn 'Sut wyt ti?', a neud bywyd dydd i ddydd pobl byddar yn llai unig."

Penderfyniad 'dinistriol'

Yn 么l Susan Daniels, prif weithredwr y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, mae penderfyniad y llywodraeth i atal y cymhwyster yn 鈥渄dinistriol鈥.

鈥淢ae mwy o bobl yn gwybod ac yn defnyddio BSL ac mae鈥檔 allweddol i chwalu鈥檙 rhwystrau mae rhai pobl ifanc byddar yn eu hwynebu," dywedodd.

Ychwanegodd bod pobl yn 鈥渉aeddu鈥 cael y cyfle i ennill y cymhwyster yn 鈥渆u hiaith eu hunain鈥.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淐ymru oedd wlad gyntaf y DU i gynnwys Iaith Arwyddion Prydain yn ei chwricwlwm, ac rydym ni'n deall y bydd siom ynghylch penderfyniad Cymwysterau Cymru.

"Rydyn ni鈥檔 falch eu bod am barhau i ddatblygu unedau Iaith Arwyddion Prydain fel rhan o gymhwyster newydd y Gyfres Sgiliau, a fydd ar gael o 2027.

"Drwy鈥檙 cymhwyster newydd hwn, caiff dysgwyr gyfle i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu ymarferol drwy Iaith Arwyddion Prydain er mwyn rhyngweithio鈥檔 gymdeithasol mewn sefyllfaoedd bob dydd."