成人快手

Oedi wrth gyflwyno TGAU Iaith Arwyddion Prydain

Plant ifanc a'u hathrawes yn codi eu bodiau at y camera
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae plant Ysgol Tre Ioan yng Nghaerfyrddin wedi bod yn dysgu sut i arwyddo ar 么l i'w hathrawes fod ar gwrs

  • Cyhoeddwyd

Mae Iaith Arwyddion Prydain (BSL), fel ieithoedd eraill, weithiau'n amrywio yn dibynnu ar ba ran o鈥檙 wlad yr ydych yn byw.

Fel llaeth a llefrith yn Gymraeg, yn BSL mae 鈥渂ore da鈥, enwau lliwiau a rhifau yn wahanol o le i le.

Dywedodd Cymwysterau Cymru bod y gwaith ychwanegol sydd ei angen i gytuno ar eirfa yn un rheswm am oedi cyn cyflwyno'r TGAU BSL.

Roedd y cymhwyster i fod i gael ei ddysgu o fis Medi 2026 ond fe fydd e nawr yn dechrau yn 2027.

Oedi'n beth 'da'

Dywedodd un arbenigwr fod oedi yn beth 鈥渄a鈥 i wneud yn si诺r fod y TGAU o鈥檙 safon uchaf.

Mae Sarah Lawrence, sy'n diwtor Iaith Arwyddion Prydain ac yn ymgyrchu yn y maes, yn credu fod y TGAU newydd yn 鈥済yfle arbennig ond mae鈥檔 rhaid ei wneud yn iawn".

Dywedodd fod yna brinder athrawon sydd 芒鈥檙 cymwysterau i ddysgu鈥檙 TGAU.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sarah Lawrence yn rhedeg cwmni Deaf Friendly ac mae hi wedi cyfrannu at y drafodaeth yngl欧n 芒 datblygu'r TGAU

鈥淢ae dwy broblem fawr mewn gwirionedd,鈥 meddai Ms Lawrence.

鈥淚 ddechrau, yr holl athrawon sy' mas 'na 鈥 ond does dim sgiliau BSL ganddyn nhw, a wedyn mae鈥檙 rheiny sydd 芒 sgiliau BSL uchel ond sy' heb y cymhwyster dysgu.鈥

Ychwanegodd fod rhai o fewn y gymuned fyddar yn credu mai dim ond pobl fyddar ddylai addysgu鈥檙 cymhwyster, ond dydy Sarah ddim yn cytuno.

鈥淥 ble gawn ni ddigon o bobl fyddar i ddysgu鈥檙 pwnc?鈥 meddai.

'Tafodiaith rhanbarthol Gymreig'

Dywedodd Cymwysterau Cymru, sy鈥檔 arwain y cynlluniau, mai鈥檙 bwriad oedd cynnig y cymhwyster o fis Medi 2026, ond bod yna 鈥渉eriau ychwanegol鈥 am fod y TGAU yn un newydd sbon.

Un o鈥檙 rheiny yw 鈥渟efydlu geirfa o iaith a gwahaniaethau tafodieithol鈥.

Dywedodd y corff, yn wahanol i wledydd eraill y Deyrnas Unedig, 鈥渄oes gan Gymru ddim dull canolog o ddatblygu a chytuno arwyddion BSL newydd".

Mae Sarah Lawrence yn arbenigwr ar y "tafodiaith rhanbarthol Gymreig" ac mae hi鈥檔 esbonio, yn hanesyddol, fod tafodieithoedd yn gysylltiedig 芒 lleoliadau ysgolion byddar.

Mae hynny wedi arwain at arwyddion gwahanol ar gyfer y lliwiau, er enghraifft, a geiriau megis 鈥減obl鈥 a 鈥渃acen鈥.

Rhaid ystyried sut mae darparu'r cymhwyster trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd, meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Doedd Si芒n Evans yn gwybod dim am dafodieithoedd BSL cyn iddi fynd ar gwrs haf diwethaf

Yn Ysgol Tre Ioan yng Nghaerfyrddin, mae Si芒n Evans yn cyflwyno鈥檙 iaith i鈥檙 athrawon a'r disgyblion ar 么l bod ar gwrs hyfforddiant BSL.

鈥淢ae鈥檙 plant yn joio, ma鈥檙 staff yn edrych 'mlaen i gael yr arwydd neu鈥檙 patrwm bob wythnos yn y cyfarfodydd staff," meddai.

"Ac mae鈥檙 plant yn mynd gartre, maen nhw鈥檔 holi 'Mam, sut fi鈥檔 arwyddo hwn?'

"Maen nhw'n joio, maen nhw moyn gwybod mwy am yr iaith.鈥

Cyn gwneud y cwrs chwech wythnos i athrawon, a gafodd ei rhedeg gan gwmni Sarah Lawrence, doedd gan Si芒n ddim syniad bod arwyddion yn amrywio ond 鈥'nath Sarah tafodiaith Gymraeg gyda ni鈥.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dysgu BSL yn "agor shwt gyment o ddryse", yn 么l Si芒n Evans

Mae鈥檔 croesawi鈥檙 TGAU newydd ac yn credu ei fod e'n "syniad arbennig o dda".

"Ma' fe鈥檔 agor shwt gyment o ddryse i bob un."

Ond mae hi'n cydnabod fod yna heriau o ran staff i ddarparu'r cymhwyster.

Ymgynghori

Y bwriad yw cynnig TGAU fydd yn addas i ddechreuwyr ac i blant byddar neu sy'n clywed.

Fe fydd Cymwysterau Cymru yn ymgynghori ar ffurf y cymhwyster yn ddiweddarach yn 2024.

Fe ddywedon nhw y byddai鈥檙 TGAU yn canolbwyntio ar ddysgu sut i gyfathrebu drwy'r iaith, gydag elfen o ddysgu am yr hanes.

Yn Lloegr, fe fydd TGAU yn Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei gyflwyno o fis Medi 2025.

Pynciau cysylltiedig