成人快手

Galw am wersi iaith arwyddo am ddim yng Nghymru

Ffion-Haf a'i mam Kristy Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Kristy Hopkins wedi talu miloedd o bunnau am wersi iaith arwyddo er mwyn cyfathrebu gyda'i merch

  • Cyhoeddwyd

鈥淢ae angen codi ymwybyddiaeth o fyddardod - yn y gymdeithas, mewn ysgolion, yn y gweithle ac mewn ysbytai.

"Mae'n rhaid gwella dealltwriaeth o'r hidden disability &#虫27;尘补.鈥

Dyna farn Kristy Hopkins, sydd wedi bod yn ymgyrchu dros hawliau teuluoedd ar 么l i鈥檞 merch Ffion-Haf gael ei geni鈥檔 fyddar.

Cafodd Ffion-Haf, 14, o Gaerdydd fewnblaniad cochlea yn ddwy oed.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ffion-Haf yn yr ysbyty wedi'r llawdriniaeth

Ar 么l genedigaeth Ffion-Haf, dywedodd arbenigwyr clyw wrth ei theulu am beidio defnyddio iaith arwyddo na siarad Cymraeg - dim ond Saesneg.

鈥淥nd oedd rhywbeth ynddo fi, ryw gut instinct, bo鈥 fi angen cyfathrebu gyda hi, a'r unig ffordd oedd drwy iaith arwyddo,鈥 meddai Ms Hopkins.

Ers hynny, mae Ms Hopkins yn dweud ei bod wedi talu miloedd o bunnau ar wersi arwyddo (BSL) er mwyn cyfathrebu gyda'i merch.

Mae deiseb bellach wedi ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru, yn galw am gyflwyno gwersi BSL am ddim i rieni plant byddar yng Nghymru.

Mae鈥檙 ddeiseb wedi denu dros 2,000 o lofnodion.

Disgrifiad,

Kristy Hopkins: "Sai'n gweld pam dyle ni orfod talu i gael cyfathrebu gyda'n plant ni"

Yn 么l adroddiad gafodd ei lunio yn 2022, mae dros 2,329 o blant byddar yng Nghymru, a 90% ohonyn nhw yn cael eu geni i rieni sy'n gallu clywed.

Mae heriau cyfathrebu yn gallu effeithio ar ddatblygiad cynnar plant yn ogystal 芒 chyfrannu at broblemau iechyd meddwl.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, maen nhw鈥檔 gweithio gyda phartneriaid sy鈥檔 cefnogi pobl fyddar, ac wedi sefydlu Tasglu Hawliau Anabl i adnabod yr heriau mae鈥檙 gymuned yn eu hwynebu.

Mae Ms Hopkins bellach yn gweithio fel athrawes arbenigol gyda phlant byddar ac yn codi ymwybyddiaeth gyda鈥檌 chyfrif addysgol ar-lein Hands2Hear.

鈥淢ae angen lot lot mwy o help ar rieni i blant byddar i wneud yn si诺r bod cyfle iddyn nhw allu dysgu iaith arwyddo gyda'u plant nhw, fel nad ydyn nhw'n colli allan ar iaith,鈥 meddai.

鈥'On i jest yn teimlo bod angen rhywbeth er mwyn helpu gydag ymwybyddiaeth o fyddardod ac i helpu pobl i ddeall sut i gyfathrebu gyda phobl fyddar.

鈥淒oedd dim dewis gyda ni - a聽does dim dewis gyda鈥檙 rhieni sy鈥檔 cael plant sydd wedi eu geni鈥檔 fyddar. Mae鈥檔 hollol warthus鈥.

'Plant byddar wedi colli mas'

Ychwanegodd Ms Hopkins: 鈥'O'n i鈥檔 gorfod dysgu arwyddo, fel bod rhywbeth gyda fi er mwyn gallu cyfathrebu gyda hi, oedd hwnna鈥檔 hollbwysig i mi.

鈥淣i鈥檔 ffodus bo鈥 ni鈥檔 gallu dysgu iaith arwyddo - dyw聽lot o ffrindiau sydd 芒 phlant byddar methu fforddio'r cyrsiau yma, felly maen nhw wedi colli mas ac mae鈥檙 plant byddar yna wedi colli mas hefyd.

鈥淢ae鈥檔 achosi massive language deprivation i鈥檙 plentyn 鈥 erbyn iddyn nhw ddechrau ysgol, mae iaith nhw lot llai na鈥檜 cyfoedion, sy鈥檔 rili trist.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Kristy Hopkins, roedd y gwersi arwyddo yn "ofnadwy o ddrud"

Mae Ms Hopkins yn credu ei bod wedi talu 拢2,000 hyd yn hyn ar wersi BSL a hynny er mwyn cyrraedd lefel pedwar - ac mae hi'n dal i ddysgu.

鈥'O'n i ddim yn gwneud o fel hobi - 'o'n i鈥檔 dysgu achos o'n i鈥檔 gorfod er mwyn cyfathrebu gyda鈥檓 mhlentyn i.鈥

Pan ddechreuodd Ms Hopkins ddysgu鈥檙 iaith dros 10 mlynedd yn 么l, roedd cwrs un wythnos dwys lefel un yn costio dros 拢500 a hynny mewn cyfnod 鈥渞ili anodd鈥 i鈥檙 teulu.

鈥淢ae鈥檔 ofnadwy o ddrud - o'n i ddim yn disgwyl gorfod talu i gyfathrebu gyda鈥檔 ferch fach i.鈥

'Dychmygwch methu gallu cyfathrebu 芒'ch plentyn'

Mae Dr Rhian Meara o Brifysgol Abertawe wedi bod yn rhan o brosiect i ddatblygu adnoddau dysgu iaith arwyddo ar gyfer disgyblion.

Dywedodd bod diffyg gwybodaeth a chefnogaeth i rieni o鈥檙 cychwyn cyntaf.

鈥淔el arfer, does dim cefndir byddar gyda teuluoedd neu unrhyw ymwybyddiaeth o fyddardod, felly dydyn nhw ddim yn gwybod lle i fynd i ofyn am help.

鈥淢ae鈥檙 bobl sydd yn arbenigo mewn datblygu clyw yn edrych i drwsio clyw yn hytrach na rhoi gobaith a helpu鈥檙 bobl sydd methu clywed yn y lle cyntaf.

鈥淒ychmygwch os ydych chi 鈥榙i cael plentyn ond yn methu siarad gyda nhw, a methu cyfathrebu gyda beth maen nhw moyn, beth maen nhw angen.

"Mae鈥檔 rhoi barriers mawr ar y gobaith i riant a phlentyn ddod i 'nabod ei gilydd ac i gyfathrebu mewn ffordd lwyddiannus ac i helpu nhw ddatblygu,鈥 meddai Dr Meara.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gallu i gyfathrebu 芒 rhiant yn cael effaith mawr ar ddatblygiad plentyn, yn 么l Dr Rhian Meara

Er mai Cymru ydi'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno iaith arwyddo BSL fel rhan o'r cwricwlwm ysgol, mae Dr Meara yn gobeithio gweld y llywodraeth yn mynd gam ymhellach, a chynnig gwersi BSL am ddim i bawb.

鈥淵ng Nghymru, mae opsiwn i gael gwersi Cymraeg am ddim, mae hyn yn rhan o batrwm byw ni. Mae disgwyl i bobl ddysgu Cymraeg, ond dyw鈥檙 un tegwch ddim yn cael ei roi i blant byddar,鈥 meddai.

鈥淥s ydych chi鈥檔 cymryd y cyfle neu鈥檙 sgil 'na i gyfathrebu rhwng rhiant a phlentyn i ffwrdd, mae鈥檔 effeithio ar sut maen nhw鈥檔 datblygu, sut maen nhw鈥檔 mynd i fod mewn addysg, sut maen nhw鈥 mynd i greu perthnasau gyda phobl eraill.

"Mae hefyd yn gallu effeithio ar bethau fel diogelwch. Sut maen nhw'n gallu cyfathrebu os mae rhywbeth drwg wedi digwydd a'u bod nhw angen cefnogaeth neu help? Mae鈥檔 effeithio popeth."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r ddarpariaeth BSL i oedolion yn seiliedig ar y galw ar draws y wlad.

"Mae yna weinidogion sy鈥檔 gyfrifol am bolis茂au addysg yng Nghymru ac yn darparu cyllid i ddarparwyr i鈥檞 weithredu.

"Mae colegau addysg bellach, yn gyrff annibynnol, ac yn penderfynu beth yw cynnwys eu cwricwlwm, a sut maen nhw'n cyflwyno'r ddarpariaeth i鈥檞 cymunedau."

Pynciau cysylltiedig