成人快手

Angen trin iaith arwyddo 'fel iaith gyntaf' plant byddar

  • Cyhoeddwyd
sign languageFfynhonnell y llun, Thinkstock

Dylai Iaith Arwyddion Prydain, neu BSL, gael ei chydnabod fel iaith gyntaf llawer o blant byddar yng Nghymru, a chael ei chefnogi'n well, yn 么l un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Bu'r Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu mynediad i addysg a gwasanaethau BSL er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl fyddar o bob oed.

Deffo! Cymru, fforwm ar gyfer pobl ifanc byddar yng Nghymru, gyflwynodd y ddeiseb.

Yn 么l y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, mae 2,642 o blant byddar yng Nghymru ac mae ffigurau'r llywodraeth yn dangos bod 3,116 o ddisgyblion 芒 nam ar eu clyw yn ysgolion Cymru.

Roedd tystiolaeth yn awgrymu fod dosbarthiadau BSL yn cael eu canslo yn ystod cyfnodau o gyni ariannol.

Er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod BSL yn iaith leiafrifol, mae'r Pwyllgor o'r farn y dylid trin BSL fel iaith gyntaf nifer o blant a phobl ifanc byddar a thrwm eu clyw yng Nghymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor Deisebau mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol oedd penderfyniadau ynghylch y cymorth a'r adnoddau sydd ar gael i bobl fyddar a thrwm eu clyw yng Nghymru.

Mae aelodau'r Pwyllgor wedi argymell bod siarter genedlaethol yn cael ei llunio ar gyfer darparu gwasanaethau, gan gynnwys addysg, i blant a phobl ifanc byddar a'u teuluoedd.

Byddai hyn yn galluogi cynghorau i gynllunio'r cymorth a'r adnoddau drwy gyfeirio at fframwaith sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol, a bydd hynny'n helpu i sicrhau bod y ddarpariaeth yn gyson ledled Cymru.

Ffynhonnell y llun, Mudiad Meithrin/Prifysgol Bangor

Yn gynharach eleni fe wnaeth Mudiad Meithrin ar y cyd 芒 Chanolfan Ehangu Mynediad Prifysgol Bangor lansio cynllun Dwylo'n Dweud - sy'n cynnwys cyfres o glipiau byr sy'n canolbwyntio ar un gair bob wythnos - er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r arwyddion ac iaith BSL yn ogystal ag annog teuluoedd ifanc ac eraill i'w ddefnyddio gyda'u plant ac ysgogi diddordeb er mwyn cynyddu nifer yr unigolion sydd yn medru defnyddio iaith BSL.

Dywedodd David Rowlands AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau: "Rydyn ni'n credu ei bod yn hanfodol bod teuluoedd plant a phobl ifanc byddar a thrwm eu clyw yn cael cyfle i ddysgu sut i gyfathrebu drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain.

"Rydyn ni'n cydnabod mai cyfrifoldeb yr Awdurdodau Lleol a'r Colegau Addysg Bellach yw penderfynu ar eu blaenoriaethau gwariant eu hunain, ond rydyn ni o'r farn y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy i arwain awdurdodau lleol i drin BSL fel iaith angenrheidiol, yn hytrach nag ymateb i angen meddygol."

Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi crynodeb o'i adroddiad ar Iaith Arwyddion Prydain ac mae'n gwneud pedwar argymhelliad:

  • Bod Llywodraeth Cymru'n cefnogi Iaith Arwyddion Prydain fel iaith leiafrifol, ac yn annog awdurdodau lleol i'w chydnabod fel iaith gyntaf llawer o blant a phobl ifanc byddar wrth ddarparu gwasanaethau addysg a chymorth;

  • Bod Llywodraeth Cymru'n ystyried datblygu siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau, gan gynnwys addysg, i blant a phobl ifanc byddar a'u teuluoedd;

  • Bod pob plentyn ar bob lefel o addysg yn cael cyfle i ddysgu Iaith Arwyddion Prydain, a bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried creu TGAU iaith arwyddion fel iaith gyntaf gyda Cymwysterau Cymru;

  • Bod Llywodraeth Cymru'n cynllunio'r gweithlu o ran athrawon sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc byddar a thrwm eu clyw, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn parhau'n gynaliadwy.

Casglodd y ddeiseb 1,162 o lofnodion trwy gyfuniad o ddeisebau papur a system ar-lein y Cynulliad.

Bydd Llywodraeth Cymru'n trafod adroddiad y pwyllgor.