成人快手

Gofal 'annigonol' ar gyfer pobl sydd 芒 nam ar eu clyw

  • Cyhoeddwyd
Deaf personFfynhonnell y llun, Rawpixel/Getty Images

Mae pobl fyddar neu sydd yn colli eu clyw yng Nghymru yn cael eu "gadael i lawr" gan wasanaethau cyhoeddus, yn 么l elusen.

Yn 么l Action on Hearing Loss Cymru, mae gan nifer o bobl yr hawl i dderbyn gofal, ond mae hi'n anodd iddyn nhw gael mynediad ato.

Mae hyn yn cynnwys derbyn asesiadau o'u hanghenion, y gefnogaeth gywir, a mynediad at offer a chyngor addas.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod gwasanaethau statudol "dan straen sylweddol".

Mae dros hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn fyddar neu yn colli eu clyw yn 么l yr elusen.

Mae Action on Hearing Loss Cymru yn rhyddhau adroddiad sydd wedi ei selio ar ddarganfyddiadau ar hyd dwy flynedd.

Dywedodd yr adroddiad nad yw nifer o awdurdodau lleol yn cynnal asesiadau "sydd yn rhoi anghenion yr unigolyn yn gyntaf".

Sonia'r adroddiad hefyd eu bod nhw'n darparu offer sydd bellach "ddim yn addas" ar gyfer ei ddefnyddio.

Ffynhonnell y llun, 成人快手 Wales
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid yw'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn "ddigonol" ar gyfer pobl fyddar, yn 么l Rebecca Woolley

Wrth siarad ar raglen Sunday Politics 成人快手 Cymru, dywedodd cyfarwyddwr yr elusen, Rebecca Woolley, fod yr ymchwil yn dangos rhai enghreifftiau o arfer dda gan gynghorau, ond ar y cyfan nid yw'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn "ddigonol" ar gyfer pobl fyddar neu sy'n colli eu clyw.

"Mae rhai o bobl fwyaf bregus ein cymdeithas dan anfantais, ac ar adegau yn cael eu rhoi mewn peryg oherwydd nad ydynt yn deall eu bod 芒'r hawl i dderbyn y gefnogaeth yma."

Mae'r elusen eisiau i gynghorau adolygu eu darpariaeth ar gyfer pobl sydd 芒 nam ar eu clyw, fel eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol.

Yn 么l y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, dylai unrhywun sydd 芒 nam ar eu clyw ac yn cysylltu gyda'r gwasanaethau cymdeithasol, dderbyn asesiad gan arbenigwr.

Dylai'r unigolyn wedyn dderbyn cefnogaeth sydd wedi ei drefnu ar eu cyfer, sydd fel rheol yn cynnwys offer a ddarparwyd gan asiantaethau fel Action on Hearing Loss.

'Gwneud ei gorau'

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eu bod nhw'n cydnabod pwysigrwydd y gwasanaethau hyn ac wedi gwneud ei gorau i'w hamddiffyn.

"Er hyn, mae'n rhaid i ni werthfawrogi'r pwysau a'r sialensiau sy'n wynebu cynghorau lleol, a tra'u bod nhw'n parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i rwystro toriadau mewn gwasanaethau, y gwirionedd yw bod nifer o wasanaethau statudol dan straen sylweddol."

Ychwanegodd: "Gyda nifer o wasanaethau sydd mor bwysig i les pobl mewn peryg gwirioneddol, mae cynghorau yn cael eu gorfodi i gydbwyso'r gyllideb tra'n cyflawni gofynion statudol hefyd".