成人快手

Diffyg cefnogaeth i weithwyr byddar

  • Cyhoeddwyd
clust

Mae elusen sydd yn cefnogi pobl byddar yn y gweithle wedi datgelu eu bod yn cael trafferth cwrdd 芒'r galw am eu gwasanaethau.

Yn 么l Action on Hearing Loss Cymru mae tua 4% o'r gweithlu Cymreig - tua 84,000 o bobl - yn fyddar neu yn defnyddio teclyn clyw.

Dyw eu dau ymgynghorydd ddim yn medru ymdopi 芒'r galw, medd yr elusen.

Mae gwasanaethau'r elusen yn cael eu hariannu gan Adran Gwaith a Phensiynau llywodraeth y DU.

Ers cael eu sefydlu ddwy flynedd yn 么l mae 29 o bobl wedi cael eu cyfeirio atyn nhw.

Yn 么l cyfarwyddwr yr elusen Richard Williams: "Mae'r galw yn llawer uwch na'r cyflenwad ac mae ein ymgynghorwyr ond yn medru cefnogi cleientiaid yn y de ddwyrain.

"Does dim cefnogaeth ar gael yng ngweddill Cymru."

O'r 29 person sydd wedi cael eu cyfeirio hyd yma mae 6 wedi llwyddo i gael eu cyflogi mewn swydd llawn amser.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jack Griffiths o Dredegar yn gwerthfawrogi'r cymorth y mae e wedi ei gael

Aros am gefnogaeth

Un o'r rhai sydd wedi elwa o'r gwasanaeth yw Jack Griffiths o Dredegar. Yn 么l y gweithiwr adeiladu, a gafodd ei eni heb allu i glywed, roedd ei hyder yn diflannu wrth iddo fethu cael swydd.

Ar 么l cael cymorth gan yr elusen fe gafodd swydd gyda chwmni adeiladwyr Wills Construction.

"Rwy'n teimlo yn well am fi fy hun," meddai. "Pan does gennych chi ddim swydd, dydych chi ddim yn dysgu nac yn datblygu."

Yn 么l yr elusen mae person byddar bedair gwaith yn fyw tebygol o fod yn ddi-waith na pherson heb anabledd.

"Bob mis rydym yn cael cais am gymorth gan bobl sydd yn teimlo yn anobeithiol am y sefyllfa, ac mae'n rhaid i ni ddweud wrthyn nhw aros am gefnogaeth."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau eu bod wedi "ymrwymo i helpu pobl anabl dod o hyd i waith".

"Yn ogystal 芒'r cymorth arbennig sydd ar gael yn ein Canolfannau Gwaith bydd rhai pobl angen cymorth arbenigol.

"Dyna pam mae'r cyrff fel Action on Hearing Loss yn cael eu hariannu, ac ar hyn o bryd rydym yn ystyried sut i ehangu'r gefnogaeth yma yn y dyfodol."

Bydd rhagor am y stori yma ar raglen