成人快手

Rhai'n teithio hyd at 90 milltir am ofal deintydd GIG

  • Cyhoeddwyd
danneddFfynhonnell y llun, PA

Mae cynrychiolwyr deintyddion yn dweud bod cleifion yn wynebu teithiau hir i gael triniaeth wedi gostyngiad o 拢20m yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru.

Yn 么l swyddogion y Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig (BDA) yng Nghymru, mae yna derfyn ar nifer y cleifion y gall deintyddion eu trin dan y GIG.

Oherwydd hynny, mae rhai pobl yn gorfod teithio 90 milltir i gael apwyntiadau.

Mae'r sefyllfa'n debyg i "loteri c么d post" medd yr undeb, sy'n rhoi tystiolaeth i un o bwyllgorau'r Cynulliad ddydd Iau.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod methiant y gymdeithas i gydnabod newidiadau cadarnhaol yng Nghymru yn "siomedig".

'Model methedig'

Mae ystadegau'n dangos fod 15% o bractisau deintyddol y GIG yng Nghymru wedi derbyn cleifion newydd dros 18 oed y llynedd, ac roedd 28% wedi derbyn plant ar eu cofrestrau.

Yn 么l y BDA, mae deintyddion yng Nghymru - fel yn Lloegr - yn cael eu "cosbi" gan system cytundebau'r GIG, sy'n golygu fod arian yn mynd yn 么l i fyrddau iechyd os nad yw deintyddion yn cyrraedd targedau penodol.

O ganlyniad, medd yr undeb, cafodd 拢20m ei golli o wasanaethau deintyddol ar draws Cymru yn y tair blynedd diwethaf.

"Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru yn glynu wrth fodel methedig o dicio blychau a thargedau sy'n ariannu gofal GIG ar gyfer ychydig dros hanner y boblogaeth," dywedodd Tom Bysouth, cadeirydd un o bwyllgorau BDA Cymru.

"Mae teuluoedd ar draws Cymru'n talu'r pris am system sydd i bob pwrpas yn cyfyngu ar nifer y cleifion gall ddeintydd eu trin."

Mae gwybodaeth Galw Iechyd Cymru'n dangos fod rhai pobl sy'n byw yn Aberystwyth yn wynebu taith o bron i 90 milltir am ofal deintyddol mewn clinig sy'n derbyn cleifion GIG newydd.

Mae rhai pobl yn Y Drenewydd yn wynebu taith 80 milltir, tra bod rhai yng Nghaerdydd yn gorfod teithio bron i 30 milltir.

Dywedodd Mr Bysouth: "Mae'n hollol warthus bod 拢20m wedi ei golli o wasanaethau lleol tra bod rhai cleifion yn teithio 90 milltir i weld deintydd dan y GIG.

"Dyma ganlyniad anochel system sydd wedi methu, lle mae swyddogion yn dibynnu ar ddeintyddion i fethu eu targedau er mwyn llenwi'r bylchau mewn cyllidebau eraill."

'Cytundeb teg'

Bydd swyddogion BDA Cymru yn dweud wrth aelodau Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad fod model cytundebu presennol y GIG hefyd yn achosi trafferthion recriwtio a chadw deintyddion ar draws Cymru.

Awgrymodd arolwg diweddar fod mor芒l o fewn y proffesiwn wedi gostwng i'w lefel isaf ers 2000, a bod dros 50% o ddeintyddion wedi ystyried rhoi'r gorau arni.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi neilltuo arian ychwanegol "er gwaethaf toriadau parhaus" i'w chyllideb i godi cyflogau deintyddion, yn unol ag argymhellion y Corff Adolygu T芒l Meddygon a Deintyddion.

"Rydym yn credu bod hwn yn gytundeb teg i ddeintyddion ac i GIG Cymru yn gyfan gwbl," dywedodd llefarydd.

"Mae'n siomedig bod BDA Cymru heb gydnabod y newidiadau sylweddol rydym yn eu gweithredu fel rhan o'n rhaglen gyfredol i ddiwygio cytundebau deintyddol, sy'n cael eu croesawu gan ddeintyddion, ac y mae BDA Cymru yn rhan ohoni."