Ganol mis Tachwedd bydd bron i ddwy flynedd o waith paratoi yn cyrraedd ei benllanw pan fydd G诺yl Cerdd Dant Cymru yn cael ei chynnal yn Y Rhyl ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 15.
Disgwylir cannoedd o gystadleuwyr o bob rhan o Gymru i Theatr y Pafiliwn gyda chyfarfod y prynhawn yn cychwyn am 11.30 a'r hwyr am 5.30.
Rydym ni yn ardal Y Glannau yn gyfarwydd iawn 芒 moethusrwydd y Theatr a byddai'n braf gweld y lle yn gyfforddus lawn trwy'r dydd er mwyn dangos i weddill Cymru bod cefnogaeth frwd i ddiwylliant Cymraeg yn y fro - er ein bod yn byw ynghanol m么r o Seisnigrwydd!
Bydd bwyd ar gael i'r cyhoedd trwy'r dydd felly dewch am y diwrnod i fwynhau gwledd o gerddoriaeth, llefaru a dawnsio fydd yn dathlu ein traddodiadau gorau ni fel cenedl.
Ar y prynhawn Sul yn dilyn yr 诺yl rhwng 3yh a 5yh bydd cwmni teledu Avanti yn recordio'r rhaglen 'Dechrau Canu, Dechrau Canmol' yn y theatr. Geraint Roberts fydd yr arweinydd ac mae croeso cynnes i bawb ddod i ymuno yn y canu fel rhan o'r gynulleidfa.
 |