Ym mis Ebrill eleni, cefais y pleser o wario ychydig o ddyddiau yn ninas Barcelona. Dinas sy'n enwog am bensaerniaeth Antoni Gaudi, y Nou Camp, y Sagrada Familia, ac wrth gwrs, heb anghofio Las Ramblas. Ond wyddoch chi, un ffaith na welwch chi fyth mewn llenyddiaeth i'r twristiaid yw mae y ddinas hon yw un o brif ganolfannau diwylliant y byd.
Wrth ddynesu at y gwesty roedd hi'n amlwg bod y ddinas yn dathlu achlysur arbennig. Roedd baneri coch a melyn Catalonia i'w gweld ymhobman a sylwyd fod y mwyafrif o'r merched yn cario rhosyn coch. Cawsom yr eglurhad yn y gwesty. Roedd arwydd yn gwahodd ymwelwyr i ymuno yn nathliadau 'La Diada de Sant Jordi' ar Ebrill 23, sef y diwrnod hwn! Dydd San Si么r! Doedd dim posib fod y Catalaniaid yn dathlu nawdd sant Lloegr! Wrth grwydro ar hyd Las Ramblas, stryd enwocaf Barcelona, roedd degau o stondinau rhosod a llyfrau ochr yn ochr 芒'i gilydd. Golygfa ryfeddol, lle gwelwyd awduron yn llofnodi eu campweithiau a'r gwerthwyr blodau yn cystadlu am y stondin harddaf - a'r un mwyaf anarferol. Mor waraidd a diwylliedig oedd y cyfan.
A dyma'r rheswm am y dathlu. Er i'r ddinas rannu yr un nawddsant 芒 Lloegr (ynghyd 芒 Mosgo, Lithwania, Istanbwl, Portiwgal a nifer o wledydd a dinasoedd eraill, heb anghofio'r sgowtiaid, cigyddion a ffermwyr), dathlu rhamant a diwylliant a wna Barcelona. Mae'n debyg fod San Si么r, pan nad oedd wrthi yn lladd dreigiau, yn 诺r rhamantus a boneddigaidd a bod y diwrnod arbennig hwn, efallai, yn cyfateb i ddydd Sant Ffolent neu Santes Dwynwen. Ond beth am y llyfrau? Yn 1923 dechreuodd llyfrwerthwr ym Marcelona ddefnyddio yr 诺yl i goffau marwolaeth Miguel Cervantes (awdur Don Quixote) a William Shakespeare, gan iddynt farw o fewn ychydig ddyddiau i'w gilydd. Tyfodd yr 诺yl dros y blynyddoedd yn ddathliad o ddiwylliant, iaith a llenyddiaeth Catalonia ac fe ysbrydolwyd UNESXO i gyhoeddi mai dyma ddyddiad dathlu Dydd Rhyngwladol y Llyfr drwy'r byd.
Mae 'na lawer o drin a thrafod yng Nghymru i hyrwyddo Mawrth 1af yn 诺yl y banc, fel y gallwn ddathlu ein nawdd sant mewn dull go iawn. Pa well ffordd na dilyn traddodiad y Cataloniaid. Cenhinen Pedr i'r merched a llyfr i'r dyn! Yn sicr, byddai'r Cyngor Llyfrau wrth ei fodd!
 |