Bu hir ddisgwyl ym Mhrestatyn am y sinema newydd, ac ar Chwefror 10 agorwyd yr adeilad ar ei newydd wedd. Mae'n adeilad hyfryd ac yn cynnwys dwy sinema, a phob cyfleuster newydd. Ceir lle i gant a hanner yn y ddwy sinema a gellir ei ddefnyddio fel theatr gan ei bod yn darparu holl anghenion llwyfannu. Gan fod y dull digidol yn cael ei arfer, mae safon uchel iawn i ansawdd y ffilmiau. Mae yno 'stafell fwyta a bar ynghyd ag ystafelloedd newid. Hyderwn y bydd yn gaffaeliad mawr i'r dref.
 |