Do'n wir, daeth mwy nag arfer o gefnogaeth ac fe wnaed elw o dros P. 1300. Fel y dywed ein cadeirydd newydd, Ffion T. Davies, - mae'n diolch yn fawr iawn i bawb a'i gwnaeth yn bosibl. Agorwyd y Ffair eleni gan un a fu'n gweithio yn ei bro dros Y Glannau ers y dyddiau cynnar dros ugain mlynedd yn 么l. Miss Glenys Luke oedd y wraig wadd o Ffynnongroew. Mawr yw ein diolch iddi am ei phresenoldeb, ei sgwrs bwrpasol a'i chyfraniad hael at y gronfa. Efallai nad yw'r bwrlwm i'w weld ar ei orau yn y lluniau yn y papur bro (a gweler un uchod) - ond coeliwch fi, mi roedd rhyw 150 o leiaf yn rhan o'r llwyddiant. Diolch am bob cyfraniad i stondin, fel gwobr raffl, rhoddion ariannol niferus a hael. Diolch hefyd am gymorth diwyd gofalwraig Ebeneser.
 |