成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glannau
carafan 5ed olwyn newydd "Carafan mewn cwr o fynydd"
Mae'n eithaf tebyg y byddai'r Eifion Wyn, petai'n ymweld 芒 phentref Rhuallt heddiw, yn cael agoriad llygad o weld beth sydd wedi digwydd i fyd carafannau ers iddo lunio'r gerdd ramantus 'Y Sipsiwn' sy'n gyfarwydd i gynifer ohonom.

Go brin y byddai'n s么n am 'filgi brych' am 'aelwyd dan noethni'r nef' nac am 'arogl mwg lle bu'. Yn sicr ni fyddai ei ferlod yn dda i fawr ddim iddo!

Yn Rhuallt dan gysgod Mynydd y Cwm a thafliad carreg oddi wrth brysurdeb yr A55, mae teulu lleol anturus wedi sefydlu cwmni i gynhyrchu math unigryw o garaf谩n, ac un sy'n wahanol iawn i'r un a welodd y bardd yn ei ddychymyg.

'Fifth Wheel' yw enw'r cwmni dan sylw a 'Celtic Rambler' yw enw'r garaf谩n a gynhyrchir ganddynt. Y 'pumed olwyn' dan sylw yw'r cyplydd sy'n cael ei ddefnyddio i uno'r garaf谩n gyda'r pic-yp sydd yn ei thynnu.

Am flynyddoedd bu Merfyn a Jenny Parry-Jones yn rhedeg busnes gwerthu tractorau a pheiriannau amaethyddol yn Nhrefnant, ond yn ymddiddori ar yr un pryd mewn carafannau o bob math. Dros y blynyddoedd roedd carafanio yn un o'u prif bleserau a bu ganddynt sawl caraf谩n gonfensiynol a motor-home Americanaidd enfawr nes iddynt fentro, yn 1997, i fewnforio caraf谩n 5ed olwyn o'r Unol Daleithiau.

Bu'r profiad hwnnw'n un tyngedfennol yn eu hanes gan iddynt sylweddoli manteision y math yma o garaf谩n tra'n sylweddoli ar yr un pryd bod natur systemau brecio a thrydan y carafannau Americanaidd yn gwneud y gwaith o'u haddasu yn gymhleth a chostus, a'u lled a'u huchder yn eu gwneud yn anaddas i ffyrdd culion Ewrop. Dyna pryd y cawsant y syniad o gynhyrchu carfanau 5ed olwyn a fyddai'n apelio at brynwyr Ewrop, a mynd ati o ddifrif i fentro cynhyrchu.

Wedi iddynt brynu fferm Llwyn Derw yn Rhuallt ac adeiladu cyfleusterau priodol yno, trefnodd Merfyn a Jenny, ynghyd 芒'u merch Ceri a'u mab, Adrian, i gychwyn ar y gwaith o ddylunio ac adeiladu, gan gyflogi t卯m o weithwyr lleol i'w cynorthwyo. Daeth y garaf谩n gyntaf oddi ar y llinell gynhyrchu yn 2002 ae fe'i dangoswyd i'r cyhoedd mewn sioe garafannau yn Shepton Mallet. Yn Chwefror eleni, 'roedd cynnyrch y ffatri yn Rhuallt yn cael ei arddangos yn sioe garafannau fwyaf Prydain, yn Birmingham.

Mae'r carafannau a ddaw o'r ffatri fechan yn Rhuallt yn mesur 8 metr (26 troedfedd) o hyd a 2.3 metr (7 troedfedd 6 modfedd o led). Oddi mewn maent yn foethus tu hwnt, ac mae pob un sy'n cael ei harchebu yn cael ei theilwrio i gyfarfod 芒 gofynion y prynwr. Mae un amrywiad ar y garaf谩n sylfaenol yn cynnwys 'estyniad', sef darn sy'n dod allan o ochr y 'fan er mwyn creu mwy o ofod oddi mewn i'r lolfa a'r ystafell fwyta, ond mae'r cwmni'n pwysleisio na ellir agor yr estyniad tra mae'r garaf谩n ar y ffordd fawr!

Mae systemau gwresogi dan y llawr, system sinema DVD, ystafell ymolchi en-suite, rhewgell/rhewydd, teledu lloeren a phaneli solar ymhlith yr offer sydd ar gael i'r prynwyr sy'n eu dewis. Braf yw gweld cwmni lleol, sy'n eiddo i deulu o Gymry, yn mentro ac yn llwyddo mewn byd mor ddieithr, ac mae'r Glannau a'i ddarllenwyr yn dymuno'n dda iawn iddynt yn y dyfodol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy