成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


成人快手 成人快手page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Cychwyn gobeithiol

4 Awst 2007

Amser paned - Selwyn Evans, ei wraig Ann, a Dafydd Meirion Jones ar y maes ddydd Gwener.

Y tywydd o blaid ac arian yn y pwrs

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn edrych ymlaen at gychwyn da gyda chyflwr y maes wedi ei drawsnewid yn llwyr o'r hunllef mwdlyd oedd o ychydig dros wythnos yn 么l yn dilyn glawogydd di-baid.

Ac mae'r trefnwyr yn ffyddiog iddynt wneud digon i ddiogelu'r maes gyda graean a thracfyrddau i ddygymod ag unrhyw newid yn y tywydd yn ystod yr wythnos.

A chyn bwysiced na dim maen nhw'n gwybod yn barod i'r ymgyrch gasglu arian yn lleol fod yn llwyddiant ysgubol gyda llawer mwy na'r nod wedi cyrraedd y coffrau - a darogan y bydd pobl Sir Y Fflint wedi codi mwy o arian na neb arall erioed erbyn y diwedd!

"Y nod oedd 拢300,000 ac mae 拢365,000 wedi ei godi," meddai Selwyn Evans, trysorydd y pwyllgor gwaith.

Dywedodd ef i'r gymuned leol ymateb yn rhyfeddol i ymgyrchoedd codi arian o bob math wedi eu llunio i apelio at y gymdeithas leol yn gyffredinol.

"Yr oeddem wedi gwneud yn si诺r bod yna ddigon o ymgyrchoedd a fyddai'n apelio at bobl nad oeddent yn eisteddfodwyr - pethau fel nosweithiau cyri, teithiau, twrnamaint golff a gwthio coets o Nercwys i'r Wyddgrug a gododd fil o bunnau ei hun. Hyn oll ar ben y boreau a'r pnawniau coffi arferol," meddai Mr Evans a oedd yn cynorthwyo ar y maes ddydd Gwener ac yn paratoi stondin ei siop, Siop y Siswrn.

Ychwanegodd i'r ymgyrch godi arian fod yn fodd i ddod a phobl Sir y FFflint at ei gilydd.

"Mi fu yna lawer o bontio," meddai.



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy