|
|
成人快手 成人快手page Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonCreu straeon efo Caryl8 Awst 2007RAW a Caryl Lewis ar y maes yn creu straeon a chymeriadau Mae sesiynau sgrifennu straeon ar gyfer plant yn profi'n boblogaidd iawn ar faes yr Eisteddfod. Bob bore am hanner awr wedi deg ym Mhabell Coleg y Drindod, Caerfyrddin, mae'r awdur Caryl Lewis a chriw o ddarpar sgrifenwyr wedi bod wrthi'n creu cymeriadau a straeon newydd ar gyfer plant fel rhan o gynllun RAW adran addysg 成人快手 Cymru. Darllen y straeonDdiwedd yr wythnos, pan fydd casgliad o straeon ar gael bydd Menna Elfyn yn dod draw i'w darllen a hefyd bydd y straeon yn cael eu dangos i gyhoeddwyr a fydd yn ystyried y posibilrwydd o gyhoeddi rhai ohonyn nhw. Wrth baratoi ar gyfer y trydydd sesiwn y bore 'ma dywedodd Caryl Lewis ei bod yn hynod o hapus sut mae pethau'n mynd. Ymhlith y cymeriadau sydd wedi eu creu y mae Weli werdd sydd yn drist am ei bod yn blaen mewn byd lle mae cymaint o 'welis' mor lliwgar," meddai. Dywedodd fod mynychwyr y sesiynau yn amrywio yn fawr o ran oed gan gynnwys bechgyn ifainc, tad ifanc a dau neu dri o deidiau! Ychwanegodd mai'r tro diwethaf i rai sgrifennu stori oedd yn yr ysgol. "A dyna drist yw hynna," meddai. Ychwanegodd fod ambell un a gymerodd ran ychydig yn nerfus wrth gychwyn ond bod brwdfrydedd mawr a llawer o hwyl wrth iddyn nhw fynd ati i drafod syniadau a sgrifennu. A dywedodd Eleri Beynon, Swyddog Marchnata Coleg y Drindod, fod y cynllun hwn yn ffitio'n daclus a gweithgaredd Addysg Blynyddoedd Cynnar Coleg y Drindod. "Hefyd, mae plant wedi bod yn gwneud lluniau i gydfynd 芒 rhai o'r straeon," meddai. "Mae Caryl wedi bod yn arbennig yn ysbrydoli a rhoi tips arbennig," meddai.
Pwysig ymlacioAc meddai Cayl: "Yr hyn sy'n bwysig yw fod pobl yn cael hwyl yn sgrifennu ar gyfer plant," meddai. Yn awdur profiadol ei hyn dywedodd mai ei chyngor hi i unrhyw un sy'n bwriadu rhoi cynnig arni yw "i ymlacio". "Oherwydd does gan blant ddim rhagfarnau ac mae hynny yn rhoi rhyddid ichi wrth sgrifennu - ond y mae 'logic' hefyd yn bwysig i blant felly mae'n rhaid i bopeth wneud synnwyr iddyn. "Fe allwch chi fod yn ffantasiol ond rhaid i'r peth wneud synnwyr yn eu meddwl nhw hefyd achos wnan nhw ddim derbyn syniadau sydd ond yn sili," meddai. Yn dilyn sesiynau yr wythnos hon mae RAW yn trefnu hefyd gystadleuaeth ysgrifennu stori o gwmpas Macs a Lara a chymeriadau eraill o'r gofod. Y dyddiad cau 31 Ionawr 2008 gyda'r bwriad o gynnwys rhai o'r straeon mewn llyfr RAW. Categori
|
About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |