成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


成人快手 成人快手page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Gwyddgrug Gwilym - bore Iau

9 Awst 2007

Gwilym Owen ar y maes

Sylwadau Gwilym Owen o'r maes - ar y Post Cyntaf ar 成人快手 Radio Cymru bob bore

Ergyd y geiriau

Dwn i ddim a ydw i wedi bod yn fwy anffodus nag arfer ond ddoe mi ddoes i ar draws criw o bobl ddig a blin.

Fe ddaeth y cynta yn syth ata i Stafell y Wasg a rhoi swadan sydyn imi.

"Mwynhau dy sylwadau boreol di," meddai - oni bai am y geiriau Sanhedrin a jyncet sy'n cael eu defnyddio'n rhy aml.
Mi deimlais i'r ergyd yna!

Mewn twll heb dwll

Wedyn dod ar draws gwraig oedd yn berwi am fod Daniel Owen wedi cael mwy o sylw na Tony Bianchi ar y llwyfan bnawn echdoe.
Mae'n anodd plesio pawb tydi?

Dyn blin arall yn bytheirio wrth ddod i'm cyfarfod.
"Diawl," medda fo, "does dim modd dod o hyd i beiriant twll yn y wal ar y blwmin maes.

"Roedd yna ddigon ar faes y Sioe", medda fo. "Pam na chawn ni'r un gwasanaeth yn y Steddfod?"
Alla i mo'i ateb o.

At eu gwobr - salw

Prifardd blin ofnadwy welais i wedyn - mor flin nes ei fod o'n dawnsio ar ei het fawr frown.

Trefnwyr y Babell L锚n oedd dan ei ordd o am y dull o wobrwyo'r buddugwyr yn y Cysegr hwnnw.

Ewch yn 么l at yr hen drefn medda fo - cyflwyno beirniadaethau a dyfynnu rhai o'r cynhyrchion yn hytrach na chael rhywun i batro'n arwynebol cyn cyflwyno amlenni i'r buddugwyr.

Oedd roedd y Prifardd o Eifionydd ar gefn ei geffyl.
I'r gad Twm.

Tro Wigley

Ac fe ddaeth y gwron Dafydd Wigley i'r maes hefyd a rhoi tro go dda ar y corddwr gwleidyddol a'i hergwd i'r consensws sy wedi amlygu ei hun yn yr 糯yl eleni.

Fedar llywodraeth newydd Cymru ddim gwneud ei gwaith yn iawn heb gael mwy o arian o Lundain medda fo gan godi bwganod go fawr dybiwn i.

Ond falle mai dyma fydd cenhadaeth fawr y gwleidydd praff yn y dyfodol agos pan fydd, yn 么l sibrydion eisteddfodol, yn ei gael ei hun ar feinciau coch T欧'r Arglwyddi.
Mi gawn ni weld ai gwir y son.

Carchar ni

Ble arall, ond ar faes y Steddfod fuasech chi'n gweld yr heddlu a charcharorion yn cael eu lle yn yr haul yn gyfochrog.

Yr Heddlu yn heipio eu hunain a'u gweithgareddau a'r carcharorion o ogledd Cymru yn cael pwysigion go iawn yn eiriol ar eu rhan.

Tewch meddai'r Arglwydd Elis Thomas a'r Barnwr Syr Roderick Evans wrth eisteddfodwyr dwy fil a saith, mae'n hen bryd inni gael carchar ar gyfer ein hogia a'n genod ni yn ein bro ein hunain.

Amen meddai pawb a fu'n gwrando - ond nid yn ymyl t欧 ni gobeithio.

Cyngor ddoe

A r诺an dyma fi'n mynd i bechu drwy s么n am y Sanhedrin eto - y corff cadarn sydd drwy gyfrwng cyfansoddiad newydd i gymryd pob awdurdod bron o ddwylo'r corff a adnabyddid gynt fel Cyngor yr Eisteddfod.

Ond chwarae teg iddyn nhw maen nhw'n dal i gynnig ystafell foethus lle gall aelodau'r corff a sbaddwyd eistedd yn gysurus i hel atgofion am y grym a gollwyd mor ddisymwth.

Ie, pobl y galon galed a'r gyllell finiog - dyna'r Sanhedrin newydd sy'n rhedeg y jyncet bellach!



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy