|
|
成人快手 成人快手page Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonMeddwl mwya'r Steddfod4 Awst 2007Pendigeidfr锚n - dyna ichi fr锚n! Ar faes sydd i fod yn lluosog o feddyliau mwyaf y genedl nid oes amheuaeth o gwbl ble mae'r ymennydd mwyaf yn Yr Wyddgrug. Yn addas iawn, yn y babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg sydd dan ofal Guto Roberts, cyn ddarlithydd o Brifysgol Morgannwg. Dywedodd Guto, sy'n ffisegydd wrth ei alwedigaeth, mai dyma'r chweched tro iddo gynllunio'r arddangosfa hon.
"Ac mi fyddai'n ceisio meddwl am rywbeth sy'n mynd i dynnu sylw a dal dychymyg bob blwyddyn," meddai. Ac eleni - ymennydd enfawr sydd fil gwaith yn fwy nag ymennydd go iawn yw'r canolbwynt hwnnw - ac wedi ei adeiladu gan yr un cwmni o Gaerdydd sy'n gyfrifol am rai o greadigaethau Dr Who. Pan fydd y model - a enwyd yn Pendigeidfr锚n gan un o wrandawyr rhaglen Hywel a Niaar 成人快手 Radio Cymru - yn symud mae rhannau arbennig yn goleuo i ddangos pan ran sy'n gyfrifol am beth. Datrys problem yn y blaen, y golwg yn y cefn er enghraifft. Ond pwysleisiodd Guto, sy'n dod o Edern ym Mhen Ll欧n yn wreiddiol, mai dim ond rhan o arddangosfa llawer iawn mwy am wyddoniaeth y meddwl yw Pendigeidfr锚n. Ychwanegodd mai dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod gydweithio gydag Adran Seicoleg Prifysgol Bangor ar ddigwyddiad o'r fath. Meddai Guto, sy'n Ymgynghorydd Gwyddoniaeth yr Eisteddfod: "Mae'r arddangosfa wedi ei threfnu gyda. chymorth y Wellcome Trust a Phrifysgol Bangor ac rwy'n gobeithio y bydd y model yma yn tynnu sylw acyn arwain pobl i weddill yr arddangosfa," meddai. Ychwanegodd y bydd cyfle hefyd i blant ac oedolion greu modelau o niwronau, datrys dirgelion, profi eu cof; trwsio ymennydd sydd wedi ei dorri, tasgau i gasglu ffeithiau - oll tra'n dysgu am wyddoniaeth y meddwl. Ond heb amheuaeth - Pendigeidfr锚n fydd yn goleuo'r rhan hwnnw o'r pen sy'n ymwneud 芒'r dychymyg! Categori
|
About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |