|
|
成人快手 成人快手page Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonGwyddgrug Gwilym - dydd Mawrth7 Awst 2007Sylwadau Gwilym Owen o'r maes - ar y Post Cyntaf bob bore Dechrau eto'r bore ma efo Nedwyn -neu Nedwyn John -y ci bach sy'n canfod wythnos y Steddfod yn Stafelly Wasg yn faich anodd iawn ei gario. Bellach, mae'n amlwg bod y Sanhedrin Eisteddfodol yn bryderus yngl欧n 芒'i agwedd gwrth Brifwyl - yn gymaint felly nes bod y Prif Weithredwr, Elfed Roberts, wedi penderfynu wynebu'r broblem mewn ffordd ymarferol. Fe'i gwelwyd yn myd a Nedwyn o gwmpas y maes gan hyrddio maldod ato. Ond wedi cyrraedd yn 么l roedd yr hen gi mor surbwch ag erioed. Disgwyl beirniadaethAc mae yna le i gredu mai digon chwerw fydd un o feirniaid cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen o lwyfan y Pafiliwn y pnawn 'ma. Yn 么l y sibrydion does yna ddim cytundeb rhwng y tri sy'n cloriannu. Peidiwch a phoeni mi fydd yna wobrwyo ond synnwn i ddim na fydd yna dipyn o siarad plaen ar y llwyfan ac ar 么l y seremoni. Colli'r rhaglenCyfrol ddiddorol ydi rhaglen y dydd eleni - cyfrol llawn deuoliaeth. Ar un llaw mae nifer o fanylion a ddylai fod ynddi ar goll - pethau fel trefn croesawu'r Cymry tramor bnawn Mercher, cyfraniad ariannol i'r gronfa leol gan un o'r pwysigion Steddfodol ac enw parti llefaru ar gyfer dydd gwener. Ar y llaw arall roedd enwau saith parti yn y rhaglen ddoe ar gyfer y gr诺p offerynnol agored. Dim ond tri ymddangosodd - a chafwyd llwyfan gwag am dros awr. Ac mae'r rhaglen yn costio chwe phunt cofiwch. Disgwyl beirniadaethSgwn i sut groeso mae Eifion Lloyd Jones, un o bileri Cyngor yr Eisteddfod, wedi ei gael gan y Sanhedrin eleni. Mae ganddo erthygl bwysig yn rhifyn y mis hwn o'r cylchgrawn Barn lle mae o'n ein hatgoffa am ei araith ddadleuol o lwyfan Prifysgol Dinbych yn nwy fil ac un am le'r Gymraeg yn ein trefn addysgol. Mae'n honni fod un o addysgwyr blaenaf Cymru sydd hefyd yn amlwg yn y Steddfod wedi cwyno amdano wrth ei bennaeth - Is Ganghellor y Brifysgol ym Mangor. Ac mae'n mynd ymhellach drwy gyhoeddi byddai erbyn hyn yn gadeirydd Cyngor y Steddfod oni bai am y ddarlith - ac mae'n cyhuddo'r Sanhedrin o fod wedi sicrhau na fyddai hynny yn digwydd. Ie stori drist iawn ond cwbl Gymreig. Pwnc trafodMae'n ymddangos i mi fod cymdeithas sy'n galw ei hun yn Gymdeithas Cledwyn yn cael trafferth blynyddol i ddewis pwnc i'w drafod ym Mhabell y Cymdeithasau. Meddyliwch mewn difri y bore yma fe ddo nhw at ei gilydd i holi a fydd Gordon Brown fel Prif Weinidog yn gwneud unrhyw wahaniaeth i Gymru. Trist iawn. O'r mawredd!A thristach fyth oedd clywed rhai eisteddfodwyr yn cwyno ddoe am flerwch rhyfeddol gan is-deitlwyr S4C wrth gyflwyno'r emynau o'r Gymanfa ar y bocs nos Sul. 'DYW' ymddangosodd ar y sgrin yn lle 'DUW' ar fwy nag un achlysur. Embaras hwnna ydy o pan gofiwch chi fod Cadeirydd Awdurdod S4C a'r Prif Weithredwr yn blant y mans. Categori
|
About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |