成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Cardi Bach
Mr David Williams, Pennaeth Ysgol Uwchradd Newydd Abertawe Yr Ysgol Uwchradd Newydd. Penodi Pennaeth
18 Rhagfyr 2002
Cafodd Mr David Williams, M.A., ei benodi yn bennaeth Ysgol Uwchradd Newydd Abertawe.Mae'n frodor o Rydaman, ac mae ar hyn o bryd yn ddirprwy bennaeth Ysgol Uwchradd Tregaron.
Mae'n byw yn Llandeilo gyda'i deulu, ei wraig Jane a'u dwy ferch, Siwan, sydd ym mlwyddyn 10, yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin, a Lluan, sy'n astudio ieithoedd yng Ngholeg St Hilda, Rhydychen.

Graddiodd Mr Williams 芒 B.Add. yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin, ac yna enillodd radd M.Add. ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd. Yn ddiweddarach fe gafodd radd M.A. Prifysgol Cymru.

Ysgolion
Ers cychwyn ei yrfa bu'n gweithio mewn wyth o ysgolion, gan gynnwys Ysgol yr Olchfa, Abertawe, rhwng 1976 ac 1986. Cafodd gyfnodau wedyn yn Uwch Athro yn Ysgol Gyfun y Cymer, Rhondda, ac yn Uwch Athro a Phennaeth y Chweched yn Ysgol Gyfun Llanhari, o 1995 i 1999.

Yn ystod ei amser hamdden prin, mae David Williams yn Faer Cyngor Tref Llandeilo Fawr, ac yn aelod o g么r Bois y Castell. Bu hefyd yn sefydlydd Gwyl Llandeilo Fawr, ac mae'n aelod o bwyllgor trefnu'r Wyl. Mae e hefyd yn bregethwr cynorthwyol.

Edrych ymlaen at ddatblygiad ysgol newydd
Mae'n edrych ymlaen yn fawr at chwarae rhan flaenllaw yn nechreuad a datblygiad yr ysgol newydd.

"Mae'n gyfle cyffrous i sefydlu ysgol a fydd yn darparu'r addysg orau posibl i blant Abertawe a'r cylch, beth bynnag fydd eu cryfderau a'u hanghenion," meddai Mr Williams.Mi fydd yn ymweld ag ysgolion cynradd Cymraeg yr ardal yn y dyfodol agos.

Gwella'r Adeiladau
Mae'r Sir wedi cychwyn ar y gwaith o adnewyddu safle'r ysgol newydd. Mae angen ailwifro'r adeilad a rhoi system wresogi newydd yn y lle cyntaf.

Mae cynlluniau wedi eu tynnu i adnewyddu'r llawr gwaelod a'r llawr cyntaf i gyd, mewn pryd ar gyfer yr agoriad ym mis Medi 2003. Mi fydd y pennaeth a'r corff llywodraethu'n ymgynghori'n fanwl 芒'r Sir ar y gwaith yma.

Erbyn iddi agor bydd gan yr ysgol gyfleusterau newydd sbon ar gyfer yr holl gwricwlwm, gan gynnwys labordai, gwaith TG, drama, cerddoriaeth, gwyddor cartref, celf, a gweithdai.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy