Enillodd y Cyn Archdderwydd y goron yn Eisteddfod y Fflint, 1969, a'r goron a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Sir Benfro, Hwlffordd yn 1972.
Lluniwyd y goron gan Mari Thomas, y grefftwraig nodedig o Felinfoel, Llanelli. Bu'r Cyn Archdderwydd Meirion Evans a'r Athro Hywel Teifi Edwards, dau gyfaill mynwesol i'r Prifardd Dafydd Rowlands, yn annerch ar y noson.
Diolchodd Emyr Lewis, Cadeirydd y Pwyllgor Ll锚n, a Heini Gruffudd, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, i Mrs Rowlands am ei rhodd hael i'r Eisteddfod ac i Mari Thomas am lunio coron mor hardd.
 |