 |
 |
 |
Swyddog Newydd Mawrth 2002 Mae Menter Iaith Abertawe wedi cyflogi swyddog newydd. Bydd Rhiannon Jenkins, Swyddog Bro y Fenter, yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn ardaloedd Amcan Un Abertawe. |
 |
 |
 |
"Casglu gwybodaeth sy'n rhaid ei wneud yn y lle cyntaf", medd Rhiannon, "felly rwy'n bwriadu creu holiadur ar gyfer disgyblion yr ysgolion cynradd Cymraeg a'r ysgolion uwchradd a'u rhieni er mwyn darganfod pa fath o weithgareddau cymdeithasol yr hoffen nhw ei gael yn yr ardal.
Sefydlu gweithgareddau cymdeithasol "Gobeithiaf, wedyn, sefydlu gweithgareddau cymdeithasol yn yr amryw ardaloedd. Gobeithio y bydd modd ehangu ar y ddarpariaeth dysgu Cymraeg yn yr ardaloedd hyn yn ogystal."
Gweithio gyda'r gymuned, yn hytrach nac ar ran y gymuned yw'r amcan ac mae croeso i bobol sydd 芒 phrynhawn neu noswaith yn rhydd i roi cymorth i Rhiannon a Myfanwy unrhyw dro!
Bydd Rhiannon yn canolbwyntio ar ardaloedd Dwyrain Dulais, Dwyrain Gorseinon, Blaen y Maes, Portmead, Penlan, Plasmarl, Townhill, Bronymaen, Craigfelen a Chastell.
 |
 |
 |
 |
|

|