Ysgol Gyfun Gwyr oedd yn gyfrifol am ysgrifennu a chyflwyno Neges Ewyllys Da yr Urdd eleni. Ysgrifenwyd y neges gan aelodau o Gyngor yr Ysgol a'r Undebau Cristnogol. Prif n么d y neges oedd cyfleu "Gorau Byd, Cyd-fyw". Fe aeth rhai o'r plant ar ymweliad i Dy'r Cyffredin ac i Stryd Downing i gyflwyno'r neges ar ffurf poster a gynlluniwyd gan rai o'r disgyblion. Aeth nifer o ddisgyblion yr ysgol i Eglwys Gadeiriol Llandaf i gyflwyno'r neges mewn nifer o wahanol ieithoedd. Ar ddydd Mercher yr Eisteddfod cyflwynwyd y neges ar lwyfan yr Urdd ac roedd yn brofiad bythgofiadwy i bawb a helpodd baratoi a chyflwyno'r Neges.
 |