Mae Ruth newydd ddychwelyd o'r Eidal, ar 61 treulio dwy flynedd yn dysgu Saesneg yno, a newydd gychwyn ei chwrs newydd. Yn 么l Ruth, "Dwi wedi dewis yr opsiwn darlledu o'r cwrs, sy'n canolbwyntio ar newyddiadura ar gyfer y teledu a radio. Mi wnes i radd Gwleidyddiaeth yn Exeter, ac yna treulio dwy flynedd yn dysgu yn Milan - a dwi' n meddwl y bydd yr ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth, ac o fywyd Ewropeaidd, o fudd i mi wrth ddilyn y cwrs hwn." Mae'r ysgoloriaeth yn rhan o gynllun blynyddol S4C pan wobrwyir pum ysgoloriaeth gwerth cyfanswm o 拢26,500. Bydd yr ysgoloriaeth hyn yn rhoi cyfle i'r unigolion ddilyn cyrsiau a datblygu sgiliau mewn gwahanol yrfaoedd, gan gynnwys ffilm a theledu, y celfyddydau gweledol a pherfformio a cherddoriaeth.
 |