˿

Sialensau amgylcheddol – CBACPrynwriaeth, cyd-ddibyniaeth ac ecosystemau

Drwy gydol yr 20fed ganrif, ac ymlaen i’r 21ain ganrif, mae prynwriaeth wedi bod yn elfen hanfodol o economïau’r byd. Mae prynwyr ym Mhrydain yn achosi problemau i’r amgylchedd mewn llawer o ffyrdd. Mae cludo nwyddau, prynu cynnyrch ar-lein a mynd ar wyliau’n achosi rhai o’r heriau mwyaf i’r amgylchedd ac ecosystemau ym mhob cwr o’r byd.

Part of DaearyddiaethSialensau amgylcheddol

Prynwriaeth, cyd-ddibyniaeth fyd-eang ac ecosystemau

Effeithiau ar goedwigoedd glaw trofannol

Un o brif effeithiau amgylcheddol cynnydd mewn yw coedwigoedd glaw trofannol. Mae yn golygu bod y galw am goed i wneud dodrefn, adeiladu a chynhyrchu papur yn cynyddu o hyd, ac mae’r rhain yn rhesymau amlwg dros dorri coed - datgoedwigo. Mae’r math hwn o ddatgoedwigo’n cael ei alw’n dorri coed, ond mae’n gyfrifol am tua pump y cant yn unig o’r coedwigoedd glaw sy’n cael eu dinistrio. Y prif resymau dros ddatgoedwigo yw:

  • Ransio gwartheg – mae 70 y cant o’r coedwigoedd glaw bellach yn cael eu colli o ganlyniad i ransio gwartheg. Mae cig yn cael ei werthu’n fyd-eang yn ogystal ag yn lleol.
  • Amaeth-fusnes – mae pump y cant o’r coedwigoedd glaw’n cael eu colli o ganlyniad i . Mae coco a ffa soia’n cael eu tyfu er mwyn cynhyrchu incwm i ffermwyr. Mae’r DU ac America’n mewnforio llawer iawn o’r cynnyrch hyn.
  • Olew palmwydd – mewn rhai rhannau o’r byd mae olew palmwydd yn cael ei dynnu o’r coed ac mae’n dod â chyfoeth mawr i ardaloedd. Mae olew palmwydd yn cael ei ddefnyddio fel olew coginio, ac mae llawer o ddefnyddwyr yn ei ystyried yn ddewis mwy iach nag olewau coginio eraill.
  • Mwyngloddio – mae canran fach o goedwigoedd yn cael eu dinistrio ar gyfer mwyngloddio. Yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, mae coltan ac aur yn cael eu cloddio o’r goedwig law drofannol. Mae coltan yn ddeunydd hanfodol ar gyfer gwneud batris i’n ffonau symudol. Mae’r map isod yn dangos lleoliad mwyngloddiau, gan gynnwys coltan, yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.
Map o fwyngloddio yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.
Figure caption,
Mae cloddio am goltan ac aur yn digwydd mewn llawer o leoedd yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo. Coedwig law drwchus oedd yn yr ardal hon ar un adeg, ond mae wedi cael ei dinistrio i raddau helaeth erbyn hyn gan fwyngloddio a threfoli