Rheoli coedwigoedd glaw trofannol
Mae’n bosibl rheoli coedwigoedd glaw trofannol yn y ffyrdd a ganlyn er mwyn lleihau:
- Torri ac ailblannu coed – mae torri coed aeddfed drwy eu dethol yn ffordd o sicrhau bod canopi’r goedwig law’n cael ei gadw. Mae’r dull hwn yn caniatáu i’r goedwig ddod ati ei hun, gan fod y coed iau’n cael mwy o le a golau haul i dyfu. Mae torri coed drwy ddull sy’n cael ei gynllunio a’i reoli yn sicrhau bod coeden yn cael ei phlannu am bob coeden sy’n cael ei thorri.
- Addysg – mae’n bwysig bod pobl leol, busnesau a gwleidyddion yn deall gwir werth y goedwig law drofannol. Pan fyddan nhw’n deall gwerth bioamrywiaeth, yn enwedig o safbwynt twristiaeth, byddant yn fwy tebygol o fod eisiau diogelu’r goedwig law drofannol rhag datgoedwigoTorri coed a choedwigoedd er mwyn defnyddio’r tir at bwrpas arall..
- Datblygu ecodwristiaeth – mae hyn yn annog twristiaeth cynaliadwyGweithgaredd sydd ddim yn defnyddio nac yn distrywio adnoddau na’r amgylchedd. sy’n creu swyddi i bobl leol, tra’n sicrhau bod yr arian sy’n cael ei gynhyrchu yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu a chadw’r goedwig law drofannol, fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu ei mwynhau.
- Cytundebau rhyngwladol/cyfnewidiadau dyled-am-natur – mae cytundebau i ddiogelu coedwigoedd glaw trofannol wedi cael eu gwneud rhwng gwahanol wledydd drwy cyfnewidiad dyled-am-naturCaiff dyled ei chanslo, er enghraifft os yw gwlad yn cytuno i warchod ei choedwigoedd glaw trofannol.. Mae hyn yn digwydd pan fo gwlad, y mae arian yn ddyledus iddi gan wlad arall, yn canslo rhan o’r ddyled os yw’r wlad sydd mewn dyled yn gwneud cytundeb i sicrhau bod ei choedwigoedd glaw trofannol yn cael eu gwarchod.
- Creu parciau cenedlaethol – un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn ardal naturiol o dir yw drwy greu parc cenedlaethol. Bwriad parciau cenedlaethol yw gwarchod harddwch naturiol a bywyd gwyllt ardal. Mae deddfau llym yn cael eu gwneud er mwyn atal pobl rhag addasu parciau cenedlaethol, a rhaid cywiro unrhyw ddifrod sydd wedi cael ei wneud neu dalu dirwyon mawr. Mae’n bosibl sefydlu coridorau bywyd gwyllt mewn parciau cenedlaethol hefyd er mwyn rhoi rhagor o amddiffyniad i’r ardal ac annog bywyd gwyllt i ffynnu rhwng gwahanol rannau o goedwig law.
Astudiaeth achos: rheolaeth gynaliadwy – coedwig law Costa Rica
Mae llywodraeth Costa Rica wedi gweithredu’r polisïau a ganlyn er mwyn gwarchod y goedwig law drofannol a sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu ei mwynhau:
- Cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o werth coedwigoedd glaw trofannol drwy addysg.
- Cynnwys cymunedau lleol a’u cael i gymryd rhan mewn prosiectau gwarchod coedwigoedd.
- Annog pobl i ddefnyddio ffynonellau pren amgen, fel coed rwber.
- Torri coed aeddfed a hyfyw o safbwynt masnachol, drwy ddull dethol, dros gylch o 40 mlynedd, er mwyn sicrhau bod y coed yn cael amser i ailsefydlu. Mae hyn yn cael ei alw yn System Reoli Ddethol.
- Hybu a datblygu ecodwristiaeth mewn ardaloedd coedwigoedd trofannol.
- Mae’r llywodraeth wedi creu ystadau coedwigoedd parhaol lle nad oes gan neb hawl i newid defnydd tir.
- Creu parc cenedlaetholArdal sy’n cael ei hamddiffyn gan lywodraeth i ddiogelu a gwarchod harddwch naturiol cefn gwlad a bywyd gwyllt. er mwyn amddiffyn bioamrywiaeth.