Effeithiau ar yr amgylchedd
Mae pob un ohonom yn defnyddio pethau – bwyd, dŵr, dillad, eitemau electronig ac egni. Yn aml, dydyn ni ddim yn ystyried o ble mae’r eitemau hyn yn dod, ond maen nhw’n cael effaith fawr iawn ar ein hamgylchedd.
Wrth i’r boblogaeth dyfu, ac wrth i’r galw am fwy o nwyddau traul gynyddu, mae ein hôl troed yn tyfu. Erbyn 2030, mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif y bydd angen dwy Ddaear i’n cynnal. Rydym yn cyfeirio at yr arfer o brynu a gwerthu nwyddau rhwng gwledydd fel cyd-ddibyniaeth fyd-eang.
Gwastraff
Fel defnyddwyr rydym yn cynhyrchu llawer iawn o wastraff. Mae rhywfaint o’r gwastraff hwn yn mynd i safleoedd tirlenwi neu’n cael ei losgi, gan ryddhau nwyon tŷ gwydr peryglus i’r atmosffer. Yn aml iawn, mae ein gwastraff yn cyrraedd ein moroedd a’n dyfrffyrdd, gan ddifrodi bywyd gwyllt a chynefinoedd.
Beth sy’n digwydd i e-wastraff? Beth sy’n digwydd i’ch hen ffôn, cyfrifiadur neu lechen ar ôl i chi orffen gyda nhw? E-wastraff yw’r enw ar y rhain.
Mae’r eitemau hyn yn cynnwys amrywiol fetelau, gan gynnwys copr, aur a phaladiwm. Mae’n hollbwysig bod y deunyddiau hyn yn cael eu hailgylchu. Bydd ailgylchu’n lleihau’r effaith ar yr amgylchedd, a bydd hefyd yn darparu swyddi i bobl mewn rhannau eraill o’r byd gan fod e-wastraff yn cael ei gludo’n rheolaidd i wledydd incwm isel (LIC) i gael ei ailgylchu. Fodd bynnag, mae rhai mathau o e-wastraff yn beryglus. Rhaid gwaredu deunyddiau fel mercwri, plwm a chemegion fflam-arafol yn ofalus ac yn briodol, oherwydd gallent ddifrodi’r amgylchedd a bod yn fygythiad i iechyd pobl.
Gorbysgota
Fel bodau dynol rydym yn bwyta llawer iawn o bysgod. Mae ein hoffter o bysgod a sglodion yn y Deyrnas Unedig wedi rhoi pwysau mawr ar y stoc bysgod yn ein moroedd a’n cefnforoedd.
Pysgota penfras
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r stoc benfras wedi gostwng yn gyflym o ganlyniad i welliannau mewn technoleg pysgota ac oherwydd cychod pysgota anghyfreithlon. Mae Môr y Gogledd yn enghraifft o ecosystem forol lle mae’r cyflenwad penfras wedi gostwng bron i 300 y cant er 1963.
Effeithiau twristiaeth
Mae twristiaeth yn rhoi llawer iawn o bwysau ar gyflenwadau dŵr y byd. Mae angen dŵr ar gyfer llawer o bethau, gan gynnwys paratoi bwyd, glanhau, pyllau nofio, nodweddion dŵr a chynnal gerddi. Mewn hinsoddau poeth a sych, mae hyn yn rhoi pwysau mawr ar y cyflenwad dŵr lleol, a gall arwain at dynnu gormod o ddŵr o’r lefel trwythiadLefel arwyneb tanddaearol (yn aml o dan y pridd a’r creigwely) sy’n llawn o ddŵr..
Golff
Mae golff yn gêm sy’n ffynnu mewn llawer o hinsoddau poeth a sych, er nad yw’n ymddangos bod llawer o ddŵr yno. Yn Dubai, mae dros 700 o gyrsiau golff mawr, a llawer o rai bach. Mae angen dŵr yn gyson ar gyfer y griniau a’r llwybrau clir, ond mae’r dŵr hwn yn gostus o safbwynt ariannol ac o safbwynt yr amgylchedd. Yn ychwanegol at hyn, mae gwestai a chlybiau’n cael eu hadeiladu, ac weithiau mae cyfleusterau hamdden ac ardaloedd adwerthu’n cael eu creu ar gyfer y golffwyr.
Mae rhai cyrsiau golff wedi cael effaith andwyol ar ardaloedd coediog ac wedi dinistrio cynefinoedd i lawer o rywogaethau o adar a phryfed.