˿

Sialensau amgylcheddol – CBACEin hôl troed ecolegol

Drwy gydol yr 20fed ganrif, ac ymlaen i’r 21ain ganrif, mae prynwriaeth wedi bod yn elfen hanfodol o economïau’r byd. Mae prynwyr ym Mhrydain yn achosi problemau i’r amgylchedd mewn llawer o ffyrdd. Mae cludo nwyddau, prynu cynnyrch ar-lein a mynd ar wyliau’n achosi rhai o’r heriau mwyaf i’r amgylchedd ac ecosystemau ym mhob cwr o’r byd.

Part of DaearyddiaethSialensau amgylcheddol

Ein hôl troed ecolegol

Mae ôl troed ecolegol yn fesur o’r effaith mae pob un ohonom yn ei chael ar yr amgylchedd. Mae’n ystyried faint o dir mae ei angen ar bob un ohonom bob blwyddyn, i ddarparu digon o fwyd, dŵr, egni a gwasanaethau. Mae ôl troed ecolegol yn cael ei fesur mewn hectarau fyd-eang y person (global hectares per person: gha). Mae gennym ddigon ar y ddaear i’n galluogi ni i gael 2.1 gha yr un. Os byddwn yn defnyddio mwy na hyn, bydd ein ffordd o fyw yn anghynaliadwy.

Po fwyaf o egni rydym yn ei ddefnyddio, po fwyaf o deithio rydym yn ei wneud. Po fwyaf o safleoedd naturiol rydym yn ymweld â hwy, po fwyaf ein hôl troed ecolegol. Mae’r diagram yn dangos pum cydran ein hôl troed ecolegol:

Pum cydran ein hôl troed ecolegol yw egni, gwastraff, teithio, bwyd a choed.
Figure caption,
Ein hôl troed ecolegol