Rheoli riffiau cwrel trofannol
Daeth y Barriff Mawr yn ardal gydnabyddedig o bwysigrwydd ecolegol pan gafodd ei ddatgan yn un o safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1981. Ers y gydnabyddiaeth gyhoeddus hon, mae nifer yr ymwelwyr wedi bod yn cynyddu o’r naill flwyddyn i’r llall bron. Mae hyn wedi rhoi pwysau mawr ar y riff a chafodd llywodraeth Awstralia ei gorfodi ar unwaith i reoli’r ecosystem hollbwysig hon yn ofalus.
Heddiw, mae’r Barriff Mawr yn cael ei ystyried yn un o’r ecosystemau morol sy’n cael eu rheoli orau yn y byd – ond beth sydd wedi cael ei wneud?
Mae’r Barriff Mawr wedi cael ei rannu’n wahanol cylchfa reoliArdal gyda nodwedd neu ansawdd diffiniedig.. Mae cyfyngiadau penodol yn cael eu cyflwyno ym mhob cylchfa i atal y riff rhag cael ei ddifrodi. Mae rhai cylchfaoedd yn caniatáu defnydd cyffredinol, ond mewn rhai eraill mae gweithgaredd dynol wedi’i wahardd yn llwyr. Golyga hyn fod twristiaid, gwyddonwyr a grwpiau eraill yn dal i gael mwynhau’r riff, ond nad yw’r riff i gyd yn agored i niwed yr un pryd. Mae pennu cylchfaoedd yn darparu manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar lefel leol a chenedlaethol.
Manteision cymdeithasol cylchfaoedd
Mae pobl yn dal i allu mwynhau rhyfeddodau’r riff, mynd ar daith mewn cwch, snorclo a dysgu am fioamrywiaeth y riff.
Manteision economaidd cylchfaoedd
Mae’r riff yn cynnal llawer o fusnesau yn yr ardal leol ac yn darparu gwaith i filoedd o bobl yn anuniongyrchol ar hyd a lled y byd, o bysgotwyr lleol i arweinwyr teithiau tywys, o hyfforddwyr plymio i ddyfnderoedd y môr i wyddonwyr, cadwraethwyr a gweinidogion swyddogol y llywodraeth.
Manteision amgylcheddol cylchfaoedd
Nid yw’r riff i gyd yn agored i bobl a diwydiannau. Mae hyn yn golygu bod y riff yn cael cyfle i adfer ei hun yn naturiol heb neb yn tarfu arno. Mae’r cylchfaoedd hyn hefyd yn cael eu newid o’r naill flwyddyn i’r llall, hynny yw, efallai y bydd ardal sy’n ‘gylchfa gyfyngol’ eleni yn newid i fod yn ‘gylchfa defnydd cyffredinol’ y flwyddyn nesaf.