成人快手

Duw yn drosgynnol, yn dragwyddol, yn drugarog ac yn farnwr

Mae Iddewon yn credu bod Duw yn drosgynnol. Dyma鈥檙 gred nad yw Duw鈥檔 rhan o鈥檙 byd rydym ni鈥檔 ei adnabod ac na ellir ei amgyffred yn llawn gan fodau dynol. Mae hyn oherwydd ei fod uwchlaw a thu hwnt i鈥檙 pethau daearol y gwyddom ni amdanynt.

Oherwydd nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i,鈥 medd yr Arglwydd.
Eseia 55: 8-9

Duw yn dragwyddol

Mae Iddewon yn credu bod Duw yn dragwyddol. Mae hyn yn golygu ei fod wedi bodoli erioed ac y bydd yn bodoli hyd byth. Nid yw wedi鈥檌 gyfyngu, fel bodau dynol, gan amser a gofod.

Duw yn drugarog

Mae鈥檙 syniad o Dduw trugarog yn cyfeirio at y gred na fydd Duw bob amser yn cosbi pobl sydd wedi tramgwyddo. Yn wahanol i agwedd rhai pobl heddiw sydd efallai鈥檔 credu y dylai tramgwyddwyr 鈥済ael eu haeddiant鈥, mae bod yn drugarog yn golygu dangos mwy o ddealltwriaeth. Mae Iddewon yn credu bod Duw yn maddau, ac er ei fod yn gwybod am y pechodau y mae pobl wedi鈥檜 cyflawni, nid yw bob amser yn eu cosbi o ganlyniad.

Duw yn farnwr

Pan fydd Iddewon yn disgrifio Duw fel barnwr maen nhw鈥檔 cyfeirio at y gred fod Duw yn gyfrifol am y tri isod:

  • cosbi
  • gwobrwyo
  • maddau

Maen nhw鈥檔 credu y bydd Duw鈥檔 cosbi neu鈥檔 gwobrwyo ei bobl yn dibynnu ar eu gweithredoedd yn ystod eu hamser ar y Ddaear. Pan fydd Iddewon yn cyflawni gweithredoedd a all gael eu hystyried yn ddrwg, byddant yn gofyn am faddeuant Duw, gan eu bod yn credu bod gan Dduw natur faddeugar.

Mae Iddewon yn credu bod Duw yn barnu bodau dynol bob ennyd o bob dydd a鈥檌 fod yn ystyried y modd y mae pobl yn trin ei gilydd. Gan wybod hyn, bydd Iddewon yn ymdrechu i weithredu mewn ffordd ddaionus, garedig tuag at ei gilydd a gwneud troeon da ac ufuddhau i鈥檙 .

Deddfwr

Mae llawer o Iddewon yn credu bod Duw wedi rhoi deddfau y mae鈥檔 rhaid i Iddewon ufuddhau iddynt, a bod y rhain i鈥檞 cael yn y . Mae Duw鈥檔 mynnu bod Iddewon yn dilyn ei orchmynion ac yn dangos eu gwerthfawrogiad iddo yn weledol.

Credant fod , a wedi gwneud gyda Duw. Fel rhan o鈥檙 trefniadau arbennig hyn, byddai Duw鈥檔 dysgu pobl sut i fyw. Ochr arall y cyfamod oedd y byddai Iddewon yn addoli un Duw yn unig ac yn ufuddhau i鈥檞 . Mitzvot yw鈥檙 enw ar y gorchmynion hyn.

Question

Eglura'r credoau Iddewig am Dduw.