Undduwiaeth (un Duw)
Mae Iddewon yn credu mai un Duw sydd - undduwiaeth yw hyn. Mae hyn yn gred bwysig iawn i Iddewon a dyma鈥檙 neges ganolog yng ngweddi鈥檙 ShemaGweddi sy'n datgan ffydd Iddewig ac sy'n cael ei hadrodd gan lawer o Iddewon ddwywaith y dydd. Mae'r Shema yn datgan mai dim ond un Duw sydd. Mae geiriau'r Shema yn cael eu gosod o fewn ces y mezuzah a'r tefillin..
Duw yn greawdwr
Mae Iddewon yn credu mai Duw oedd creawdwr y byd a phopeth ynddo. Daw鈥檙 gred hon o lyfr Genesis. Bydd gan rai Iddewon ddealltwriaeth lythrennog o stori鈥檙 creu. Ystyr hyn yw eu bod yn credu鈥檙 stori yn union fel y mae wedi鈥檌 hysgrifennu, tra bod eraill yn ei gweld yn fwy fel chwedl i egluro beth allai fod wedi digwydd, ond heb ei chymryd yn llythrennol.
Un peth y mae pob Iddew yn gyt没n arno yw fod yn rhaid bod gan y byd greawdwr, gan ei fod yn rhy gymhleth i fod wedi dod i fodolaeth drwy siawns.
Natur Duw
Defnyddir y geiriau isod i ddisgrifio nodweddion sydd gan Dduw, yn 么l cred yr Iddewon. Maen nhw鈥檔 golygu bod Duw ym mhob man, ei fod yn hollalluog a鈥檌 fod yn hollgariadus tuag at ei greadigaeth:
- hollbresennol 鈥 mae Duw鈥檔 bresennol ym mhob man
- hollalluog 鈥 mae Duw鈥檔 hollalluog, ac yn gallu gwneud pob peth sy鈥檔 gyson 芒 natur Duw
- hollgariadus 鈥 mae Duw eisiau鈥檙 gorau yn unig i鈥檞 greadigaeth
Question
Beth yw ystyr hollgariadus?
Ystyr hollgariadus yw caru鈥檔 llwyr. Mae Iddewon yn credu bod Duw鈥檔 caru pob bod dynol yn ddiamod a鈥檌 fod eisiau鈥檙 gorau yn unig i鈥檞 greadigaeth.