Credoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1
Y cysyniad o Dduw
Mae ffydd llawer o grefyddau yn troi o amgylch Duw neu dduwiau. Un o'r prif gredoau Iddewig yw mai dim ond un Duw sydd, ac mai ef yn unig y dylid ei addoli.
Mannau cysegredig
Ystyrir y synagog a'r cartref ill dau yn fannau sanctaidd ar gyfer gwahanol fudiadau Iddewiaeth, sef Iddewon Uniongred, Diwygiedig a Rhyddfrydol.
Arferion Iddewig
Mae gan bob crefydd wahanol arferion sy'n unigryw i'w ffydd a'i chredoau. Bydd Iddewon yn adrodd y Shema, yn dangos parch i Dduw mewn amrywiol ffyrdd, ac yn gwisgo dillad penodol er mwyn mynegi eu hunaniaeth.
Addoli yn y cartref
I Iddewon, mae'r cartref yn lle pwysig i addoli ynddo. Mae heriau, manteision ac anfanteision wrth gadw Shabbat, yn ogystal 芒 rheolau bwyd mae'n rhaid i Iddewon lynu atyn nhw yn y cartref.
Addoli yn y synagog
Mae'r synagog yn fan addoli ar gyfer Iddewon. Mae gan synagogau wahanol nodweddion mewnol. Bydd Iddewon yn darllen y Torah yn ystod yr addoliad, ac mae gan synagogau Uniongred a Diwygiedig wahanol arferion.