Y synagog
Y synagog yw addoldy鈥檙 Iddewon. Bydd Iddewon yn ymgasglu yn y synagog:
- i wedd茂o fel cymuned
- i astudio
- i ddathlu gwahanol ddefodau newid byd a gwyliau
- i ymgynnull fel cymuned Iddewig
Minyan
Er y gall Iddewon wedd茂o yn unrhyw le, ac nad oes rhaid iddyn nhw wedd茂o yn y synagog bob amser, mae llawer o Iddewon yn credu bod gwedd茂o gydag aelodau eraill o鈥檙 gymuned Iddewig yn rhan bwysig o鈥檜 ffydd.
Enw鈥檙 Iddewon ar eu haddoliad cynulleidfaol yw鈥檙 minyanYn y ffydd Iddewig, dyma'r cworwm o ddeg dyn sydd ei angen ar gyfer cynnal gwasanaeth. Mae rhai cymunedau blaengar yn caniat谩u menywod yn rhan o'r minyan, ond dydy minyan ddim yn ofynnol bob amser.. Rhaid i o leiaf ddeg dyn Iddewig fod yn bresennol i gyflawni addoliad cyhoeddus. Bydd y rhan fwyaf o Iddewon yn mynd i鈥檙 synagog o leiaf unwaith yr wythnos er mwyn gwedd茂o cymunolGwedd茂o ynghyd fel cymuned. a gall rhai Iddewon deddfol fynd bob nos.
Man astudio
Bydd llawer o Iddewon yn defnyddio鈥檙 synagog hefyd fel man astudio. Bydd Iddewon ifanc yn mynychu gwersi lle c芒nt ddysgu athrawiaeth grefyddol sylfaenol y ffydd. Bydd Iddewon h欧n yn astudio鈥檙 TorahCyfraith neu ddysgeidiaeth. Mae modd defnyddio'r gair Torah yn yr ystyr cyfyng i olygu pum llyfr cyntaf y Beibl Hebraeg/Iddewig (Pum Llyfr Moses), a hefyd ar ystyr ehangach i gynnwys yr holl Feibl Hebraeg/Iddewig a'r Talmud. trwy gydol eu hoes, a bydd gan y rhan fwyaf o synagogau lyfrgell yn llawn o鈥檙 testunau cysegredig Iddewig i鈥檞 hastudio gan eu dilynwyr.
Dathlu
Defnyddir y synagog hefyd fel man i gynnal amryw defod newid bydAdeg arwyddocaol mewn bywyd, a ddilynir yn aml gan newid mewn ffordd o fyw. a dathliadau Iddewig. Cynhelir seremon茂au fel y Bar MitzvahYn llythrennol: mab y gorchymyn. Seremoni Iddewig ar gyfer bachgen 13 mlwydd oed, sy'n nodi ei fod yn dod yn oedolyn sy'n aelod llawn o'r gymuned Iddewig. a phriodasau ac angladdau Iddewig i gyd yn y synagog. Caiff seremon茂au eraill eu cynnal yn y synagog hefyd yn ystod adegau g诺yl, fel gwasanaeth y ShabbatSeithfed diwrnod yr wythnos; diwrnod o adnewyddu ysbrydol a gorffwys sy'n cychwyn ar fachlud haul ar y dydd Gwener ac yn dod i ben wrth iddi nosi ar y dydd Sadwrn., sy鈥檔 digwydd bob wythnos.
Y gymuned Iddewig
Mae鈥檙 synagog yn lle hefyd i gynnal digwyddiadau cymdeithasol a gwahanol weithgareddau. Bydd llawer o synagogau hefyd yn cyflawni swyddogaeth canolfan gymunedol, ac yn cynnal gwahanol bethau. Yn aml bydd amryw o ddigwyddiadau cymdeithasol yn digwydd bob wythnos.
Question
Disgrifiwch bwysigrwydd y synagog i Iddewon.
Y synagog yw addoldy鈥檙 Iddewon. Mae鈥檔 lle pwysig i Iddewon gan mai dyma lle y cedwir sgroliau鈥檙 Torah. Mae鈥檔 bwysig i Iddewon hefyd gan ei fod yn rhywle y gallant fynd i gymryd rhan mewn addoliad cyhoeddus, fel y minyan. Gallant ddefnyddio鈥檙 synagog hefyd fel man i astudio鈥檙 Torah, dathlu gwyliau crefyddol, fel Hanukkah, a chymdeithasu.