成人快手

Gwahaniaethau mewn traddodiad

O fewn Iddewiaeth mae gwahanol fathau o Iddewon, neu 鈥榝udiadau鈥 Iddewig, fel y鈥檜 gelwir. Y prif wahaniaethau rhwng y gwahanol fudiadau yw鈥檙 modd y maen nhw鈥檔 dehongli鈥檙 ysgrythurau a鈥檙 deddfau yn bennaf. Dyma鈥 r tri phrif fudiad sydd i鈥檞 cael o fewn Iddewiaeth:

  • Uniongred
  • Diwygiedig
  • Rhyddfrydol

Iddewon Uniongred

Iddewon Uniongred yw鈥檙 rhai sy鈥檔 credu鈥檙 Torah air am air ac yn credu mai dyma air uniongyrchol Duw. Fel arfer nhw yw鈥檙 Iddewon mwy traddodiadol a bydd eu gwasanaethau yn y synagog yn cael eu cynnal yn yr Hebraeg. Bydd llawer o Iddewon Uniongred yn mynd i鈥檙 synagog bob dydd ac yn adrodd gwedd茂au mewn Hebraeg.

Iddewon Diwygiedig

Mudiad yw Iddewiaeth Ddiwygiedig sy鈥檔 ceisio cadw traddodiadau Iddewiaeth ond yn eu diweddaru i weddu i fywyd modern a chyflwr newidiol y byd. Er enghraifft, mae Iddewon Diwygiedig yn credu bod stori鈥檙 creu yn llyfr Genesis yn symbolaidd yn hytrach nag yn ddisgrifiad gwirioneddol o鈥檙 hyn a ddigwyddodd. Mae hyn yn caniat谩u i鈥檙 darganfyddiadau gwyddonol modern weithio ochr yn ochr 芒 chredoau crefyddol.

Iddewon Rhyddfrydol

Mae Iddewiaeth Ryddfrydol yn debyg i Iddewiaeth Ddiwygiedig, o ran ei bod yn ceisio cysoni Iddewiaeth a moderniaeth. Mae鈥檔 fudiad mwy blaengar nag Iddewiaeth Ddiwygiedig, ac yn credu bod angen diweddaru pob deddf, dysgeidiaeth a chredo yn y byd modern. Er enghraifft, nid ydynt yn credu bod angen ufuddhau i鈥檙 deddfau dietegol Iddewig os nad ydynt eisiau gwneud hynny.

Question

Beth yw ystyr uniongred?